Taith Glywedol

Casglwch daith glywedol a map am ddim, ac ewch i grwydro’r Castell a’r tiroedd yn eich amser eich hun.

Wedi’i leisio gan ddarllenydd newyddion y BBC Huw Edwards, mae’r daith glywedol yn adrodd stori’r safle cymhleth hwn, ac yn sôn am yr unigolion grymus sydd wedi helpu i lywio ei hanes.

 

Mae’r taith glywedol ar gael mewn 10 iaith:

Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Tsieineaidd Mandarin, Japaneeg, Rwsieg a Phortiwgaleg  

Ceir fersiwn o’r daith glywedol i blant hefyd sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae’r offer teithiau clywedol o’r safle yn cynnwys taith iaith arwyddion a thaith i ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg (ar gael yn Gymraeg a Saesneg).

Mae fersiynau print bras o’r sgript ar gael hefyd.