Eich ymweliad

Yng nghanol y brifddinas, mae'r safle yr ydych yn ymweld ag ef heddiw yn gaer Rufeinig wedi'i hail-godi, yn gastell Normanaidd trawiadol, ac yn balas ffantasi Gothig ardderchog o oes Fictoria a grëwyd i un o ddynion cyfoethocaf y byd.

 

Manteision y Grŵp

  • Mae’r tâl mynediad yn is
  • Ymweliad am ddim i arweinydd y grŵp a gyrrwr y bws
  • Mannau gollwng a chodi hawdd i fysiau
  • Teithiau a sgyrsiau grŵp arbenigol o amgylch y Castell
  • Canllaw clywedol mewn 10 o ieithoedd
     

Pethau i’w gwneud a’u gweld

Yr em yng nghoron Castell Caerdydd yw addurniad rhyfeddol y rhandai. Mae’r ystafelloedd moethus yn ddigon i gymryd eich gwynt, yn gyfoeth o eurwaith, cerfiadau pren mawreddog, murluniau a gwydr lliw.

 

 


Ffoniwch ni ar 029 2087 8100 i drafod ymweliad eich grŵp.


Teithiau Grŵp

Taith o amgylch y Tŷ

Taith 50 munud gydag un o’n tywyswyr arbenigol drwy’r ystafelloedd gwych yn Rhandai’r Castell. Gallwn drefnu teithiau yn Saesneg, yn Gymraeg, yn Ffrangeg neu yn Sbaeneg.

Taith y Connoisseur

Taith breifat ac unigryw sy’n para 90 munud o amgylch Rhandai’r Castell gyda’ch arweinydd arbenigol eich hun a fydd yn rhoi cipolwg manylach i chi ar addurniad gwych y Castell. Yn gynwysedig yn y pecyn mae llyfryn arweiniad a lluniaeth ysgafn ac mae’n fwy addas i grwpiau llai.

Taith y Curadur

Gall Curadur y Castell, Matthew Williams, yr arbenigwr mwyaf blaenllaw ar William Burges a Chastell Caerdydd roi cipolwg heb ei ail i’ch grŵp ar waith y pensaer yma o gyfnod y Diwygiad Gothig a’i addasiadau gwych i’r Castell. Mae Taith y Curadur yn cychwyn gyda sgwrs a lluniau cyn mynd ar daith i weld pob twll a chornel o Randai’r Castell. Caniatewch oddeutu 2 awr ar gyfer y daith yma ac amser ychwanegol i weld darnau eraill o’r Castell. Mae te, coffi a chacennau cri wedi eu cynnwys yn y pris.

Taith Tŵr y Cloc

Gallwch weld Tŵr y Cloc yn hawdd ar orwel y ddinas ac mae’r ystafelloedd y tu mewn iddo ymysg llwyddiannau gorau Burges. Bydd eich grŵp yn dringo’r grisiau carreg troellog o Ystafell Ysmygu’r Gaeaf i dop Tŵr y Cloc ac i Ystafell Ysmygu godidog yr Haf. Caniatewch 30 munud ar gyfer y daith yma.

Taith o amgylch y Lleoliadau Ffilmio

Cipolwg gwych ar ardaloedd yn y Castell sydd wedi bod mewn sioeau poblogaidd megis Sherlock, Doctor Who a Torchwood.


Gloddestau Cymreig

Noson fythgofiadwy o groeso Cymreig yn awyrgylch hanesyddol y crypt o’r 15fed ganrif. Ymunwch â ni i fwynhau noson anffurfiol o hwyl lle gallwch fwynhau’r adloniant Cymreig gorau, bwyd Cymreig a’r croeso cynhesaf gan eich croesawyr, a fydd yn eich diddanu gyda detholiad o ganeuon cyfoes a thraddodiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

  • Blasu medd wrth gyrraedd
  • Cinio 3 chwrs yn cynnwys bwydydd arbenigol lleol* - lawrlwythwch y fwydlen
  • Bydd Meistr y Seremoni’n llywio’r noson ynghyd â’r difyrwyr traddodiadol a’r telynor

Am gost fechan ychwanegol, gall y grwpiau hefyd drefnu taith 30 munud gyda’r nos o’r Tŵr Cloc cyn i’r loddest gychwyn.

Travel Trade: £40 Taith gyda’r Nos: £5 (dim ond gyda Gloddest Gymreig)

Mae pris y loddest yn cynnwys TAW o 20%


Prisiau Mynediad

1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2017

Bydd y cyfraddau grŵp yn daladwy am grwpiau o 2 neu fwy sydd wedi cofrestru o flaen llaw. I bob grŵp, mae un arweinydd taith / gyrrwr bws yn cael mynd i mewn am ddim yn ystod y dydd.

Tocyn y Castell

Yn cynnwys y Ganolfan Wybodaeth, Firing Line, sioe ffilmiau, canllaw clywedol, Llochesi Rhyfel, Tŵr Normanaidd a Rhandai’r Castell (os ydynt ar gael ).

Amseroedd Agor

Yn ddyddiol heblaw Rhagfyr 25, 26 ac Ionawr 1

Mawrth – Hydref: 9am – 6pm. Cofrestru’r grŵp olaf am 4.50pm

Tachwedd- Chwefror: 9am – 5pm. Cofrestru’r grŵp olaf am 3.50m

Gellir trefnu ymweliadau grŵp a theithiau gydag arweinydd yn fuan yn y bore o 8.30 ymlaen


Taith Connoisseur: £26.95 y pen
Taith Curadur: £30 y pen

Manylion am Gofrestru

  • Rhaid cofrestru pob ymweliad grŵp o flaen llaw gydag unrhyw ofynion wedi eu nodi ar y pryd
  • Gellir rhannu grŵp o fwy na 40 o bobl i weld y sioe ffilm a gallai’r mynediad i mewn i Randai’r Castell gael ei ohirio ar ddiwrnodau prysur
  • Uchafswm o 25 o bobl ar bob taith. Bydd grwpiau mwy wedi eu rhannu a’u cychwyn ar wahanol amseroedd, gydag egwyl o 10 munud rhwng amseroedd cychwyn pob grŵp teithio, yn dibynnu ar argaeledd
  • I gael taith Curadur, rhaid cael o leiaf 20 o bobl yn y grŵp ac uchafswm o 45.

Awgrymiadau Defnyddiol

  • Gallwch wneud y rhan fwyaf o’ch ymweliad ar eich cyflymder eich hun, ond mae’r teithiau’n digwydd ar amseroedd penodol
  • Caniatewch oddeutu 3 awr i ymweld gyda Thocyn y Castell, ac oddeutu 4 awr wrth ychwanegu taith
  • Mae canllawiau clywedol ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Mandarin, Tsieinëeg, Japaneg, Rwsieg a Phortiwgaleg
  • Mae ap swyddogol Castell Caerdydd, yn cynnwys yr arweiniad clywedol, ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim o siopau ap iTunes a Google Play
  • Parcio i fysiau: mae’r mannau gollwng y tu allan i’r Castell yn cynnig mynediad hawdd i bartïon mewn bysiau, gyda lle parcio gerllaw (y parciau bws agosaf: Gerddi Soffia a’r Ganolfan Ddinesig)

Ffoniwch ni ar 029 2087 8100 i drafod ymweliad eich grŵp.


Dod o Hyd i Ni

Castell Caerdydd
Heol Y Castell
Caerdydd
CF10 3RB