Gwybodaeth am y Castell

Castell Caerdydd yw un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol. Saif Castell Caerdydd mewn parcdiroedd hardd yng nghanol y brifddinas, ac mae 2,000 o flynyddoedd o hanes yn cuddio y tu ôl i’w dyrau hud a lledrith. 

Caer Rufeinig

Mae’n debyg mai ar ddiwedd y 50au OC y sefydlwyd y Gaer Rufeinig yng Nghaerdydd, ar safle strategol lle’r oedd modd cyrraedd y môr yn hawdd. Mae cloddfeydd archeolegol yn dangos mai hon oedd y gyntaf o bedair caer, pob un o faint gwahanol, a oedd ar y safle presennol. Mae olion y mur Rhufeinig i’w gweld hyd heddiw. 

Y Gorthwr Normanaidd

Adeiladwyd gorthwr y Castell ar ôl goresgyniad y Normaniaid, gan ddefnyddio safle’r gaer Rufeinig. Mae’n debyg yr oedd y gorthwr cyntaf ar y mwnt, a adeiladwyd gan Robert Fitzhamon, Arglwydd Normanaidd Caerloyw, yn un pren. Yna adeiladwyd rhagor o amddiffynfeydd a thai. 

Y Teulu Bute

Bu’r Castell yn eiddo i nifer o uchelwyr tan 1766, pan drosglwyddwyd y Castell i’r teulu Bute trwy briodas. Bu Ail Ardalydd Bute yn gyfrifol am drawsnewid Caerdydd yn borthladd allforio glo mwyaf y byd. Aeth y Castell a chyfoeth Bute i'w fab, John, Trydydd Ardalydd Bute, y dyn cyfoethocaf yn y byd erbyn y 1860au yn ôl y sôn. 

William Burges

Cyflogodd y Trydydd Ardalydd y pensaer athrylithgar William Burges i drawsnewid ystafelloedd y Castell, o 1866 ymlaen. Yn y tyrau gothig, creodd ystafelloedd moethus ac ysblennydd, gyda murluniau di-rif, gwydr lliw, marmor, eurwaith a cherfiadau pren coeth. Mae thema benodol i bob ystafell, gan gynnwys gerddi Môr y Canoldir ac addurniadau Eidalaidd ac Arabaidd. Bu farw’r Trydydd Ardalydd pan oedd yn 53, ym 1900.

Er gwaethaf y tollau marwolaeth anferth ar y stad, llwyddodd y Pedwerydd Ardalydd i gwblhau llawer iawn o brojectau adfer ei dad, gan gynnwys ailadeiladu’r mur Rhufeinig. Arhosodd y teulu Bute yn y Castell yn ystod y 1920au a’r 1930au, er eu bod wedi gwerthu nifer o’u buddiannau busnes yn ne Cymru. 

Rhodd i ddinas Caerdydd

Pan fu farw Pedwerydd Ardalydd Bute, penderfynodd y teulu roi’r Castell a llawer iawn o’i barcdiroedd i ddinas Caerdydd. Roedd y Castell yn gartref i Goleg Cerdd a Drama Cymru am chwarter canrif, ac ers 1974 mae wedi dod yn un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

Mae ‘Hanfodion Castell Caerdydd’ gan Guradur y Castell, Matthew Williams, yn ganllaw swyddogol ar hanes diddorol y safle hwn, ac mae ar gael yn Siop y Castell.