Neidio i'r prif gynnwys

Teulu Beauchamp

1416 – 1449 OC

Bu farw Richard Beauchamp ym 1422 ar ôl dim ond wyth mlynedd yn arglwydd Morgannwg. Flwyddyn yn ddiweddarach priododd ei weddw Isabel, a oedd ond yn 23 oed, â’i berthynas o’r un enw – Richard Beauchamp, Iarll Warwig. Bu Iarll Warwig yn gynghorwr dibynadwy i’r Brenin Harri V, a’i penododd, ar ei wely angau, i fod yn rhaglaw ar ran ei fab bychan, y Brenin Harri VI.

Yn sgîl methiant gwrthryfel Owain Glyndŵr, diflaniad Owain a methiant y Cymry i barhau â’r ymosodiad, daeth rhyw fath o heddwch i Forgannwg. Aeth ail ŵr Isabel ati i baratoi i symud o ddiogelwch y Gorthwr, gan ddechrau’r gwaith o godi llety newydd yn erbyn Llenfur y Gorllewin.

Gan hynny, mae craidd y tŷ presennol yn dyddio o’r cyfnod hwn (1423-39) ac mae’n bosibl yr oedd yn cynnwys rhagor o adeiladau sydd wedi bellach diflannu. Fodd bynnag, roedd y bloc preswyl sydd wedi goroesi a godwyd gan yr Iarll yn soffistigedig ac yn yr arddull ddiweddaraf, yn debyg i Dŵr y Rhosyn yng Nghastell Windsor.