Neidio i'r prif gynnwys

Y Normaniaid

1091 – 1216 OC

Gan sylweddoli gwerth strategol safle’r hen gaer Rufeinig, codwyd castell newydd ar sail yr hen adfeilion gan y Normaniaid.

Roedd Robert Fitzhamon, Arglwydd Normanaidd Caerloyw, wedi trechu Rhys ap Tewdwr ym 1093 ar ôl ymyrryd yn yr ymrafael rhwng y tywysogion Cymraeg, gan olygu mai ef bellach oedd Arglwydd Morgannwg. Canolbwyntiodd y Normaniaid ar wella amddiffynfeydd ochr orllewinol y safle. Daeth hyn i fod yn ward ‘mewnol’ y castell. Ym mhen gogleddol y rhan hon o’r castell, cododd Fitzhamon fwnt, neu domen, 40 troedfedd o uchder a’i hamgylchynu â dyfrffos. Mae’n debyg y codwyd palisadau pren ar ben y gorthwr, gan roi lloches ac amddiffynfa i’r adeiladau pren lle’r oedd yr arglwydd, ei deulu a’i warchodlu’n byw.

Bu farw Fitzhamon yn sgîl anafiadau a gafodd ar faes y gad ym 1107, a phriododd ei ferch a’i etifeddes Mabel â Robert, mab naturiol Brenin Lloegr Harri I (Erys cof am Mabel hyd heddiw yn enw’r pentref Cefn Mabli). Dyrchafwyd Robert gan y Brenin Harri i fod yn Iarll Caerloyw, ac fe’i penodwyd yn Arglwydd Morgannwg ym 1122. Roedd Iarll Caerloyw yn enwog fel milwr dewr, gwladweinydd doeth a noddwr y celfyddydau, a thybir mai ef fu’n gyfrifol am godi gorthwr carreg cyntaf Castell Caerdydd. Ar gais y Brenin Harri, carcharwyd gŵr arall o’r enw Robert ganddo yn y gorthwr hwn – sef ail Dug Normandi a brawd hŷn ei dad – o 1126 tan farwolaeth Robert o Normandi ym 1134.

Bu farw Robert, a elwid ar adegau ‘Y Conswl’, ym 1147, ac fe’i olynwyd gan ei fab William. Pan fu farw William heb etifedd gwrywaidd ym 1183, trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i’r Tywysog John (sef y Brenin John yn ddiweddarach) drwy ei briodas ag Isabel, merch William. Ysgarodd John ag Isabel ond cadwodd yr arglwyddiaeth tan ei hail briodas ag Iarll Essex. Ym 1217 trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i Gilbert de Clare, mab Amicia – chwaer Isabel, a disgynnydd teulu bonheddig a oedd yn hawlio carennydd â Gwilym Goncwerwr (William I).