Y Rhufeiniaid tua 55 OC - tua 400 OC

Yn sgîl tystiolaeth a ddarganfuwyd drwy waith cloddio, mae’n bosibl fod y Llengoedd Rhufeinig wedi cyrraedd yr ardal cyn gynhared â hanner cyntaf teyrnasiad yr Ymerawdwr Nero (O.C. 54-68).

Meddiannwyd de Cymru gan y Rhufeiniaid ar ôl iddynt drechu llwyth rhyfelgar y Silwriaid ac anfon Caradog, arweinydd enwog y llwyth, i alltudiaeth yn Rhufain. Roedd caer gyntaf y Rhufeiniaid, a godwyd yn y safle hwn o bwysigrwydd strategol lle mae’r afon Taf yn llifo i Fôr Hafren, yn bencadlys milwrol a godwyd mewn tiriogaeth nas gorchfygwyd yn llwyr. Roedd eu hamddiffynfeydd yn amgylchynu safle a oedd hyd yn oed yn fwy o faint na’r safle presennol 10 erw o faint, lle codwyd eu barics, eu storfeydd a’u gweithdai pren.

Tua 75 OC, pan roedd gan y Rhufeiniaid rywfaint o reolaeth dros y rhan fwyaf o Gymru, ailadeiladwyd y gaer yng Nghaerdydd ar raddfa lai, ynghyd â chodi gweithdai’r crefftwyr fyddai’n ymgynnull o amgylch unrhyw gaer Rufeinig o amgylch y muriau allanol newydd.

Tua 300 OC, codwyd caer newydd ar y safle, gyda muriau cerrig 10 troedfedd o drwch a ategwyd gan glawdd pridd. Roedd gan ei lleoliad bwysigrwydd strategol newydd fel canolfan morwrol gan amddiffyn yr Ymerodraeth rhag ymosodiadau morwrol gan yr anwariaid o’r gorllewin a’r gogledd. Defnyddiwyd y gaer nes i’r Fyddin Rufeinig ymgilio o’r ardal ddechrau’r 5ed ganrif OC.

Ni wyddys fawr ddim am hanes y castell yn ystod y canrifoedd ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid. Mae’n bosibl am gyfnodau hirion bod ymosodiadau morwrol wedi golygu nad oedd yn bosibl amddiffyn y gaer. Roedd tywysogion brodorol Morgannwg yn meddiannu blaenau’r cymoedd i’r gogledd wrth i fyddin oresgynnol newydd ddod i feddiannu’r gaer adfeiliedig.