Gweld yr Ystafelloedd Ysblennydd

A Gothic Fantasy Palace Palas Ffantasi Gothig 

 

Castell Caerdydd yw un o gestyll mwyaf mawreddog y DU. Mae ganddo werth dau fileniwm o straeon i’w hadrodd.  

Mae’r Castell a welwch heddiw, yng nghanol y brifddinas, yn gaer Rufeinig, yn gastell Normanaidd trawiadol ac yn balas ffantasi Gothig rhyfeddol o Oes Victoria a grëwyd ar gyfer un o ddynion cyfoethocaf y byd.

I grwydro drwy fyd ffantasi canoloesol oes Victoria, ewch i gael golwg ar yr ystafelloedd rhyfeddol sy’n llawn murluniau, eurwaith a cherfiadau pren coeth, gwydr lliw a marmor a grëwyd gan y pensaer celf William Burges ar gyfer Trydydd Ardalydd Bute.

Os hoffech weld mwy o’r ystafelloedd ysblennydd hyn, gallwch fynd ar Daith Dywysedig sy’n para 50 munud a arweinir gan arbenigwr.Holwch yn y Swyddfa Docynnau am fanylion.

 {WIDGET:GALLERY101}