Casgliad Gemwaith Burges

Mae Castell Caerdydd wedi lansio casgliad newydd o emwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan waith y pensaer William Burges a’r 3ydd Ardalydd Bute, roedd yn gyfrifol am drawsnewid Castell Caerdydd i’r palas ffantasi canoloesol a welwn heddiw . I unrhyw un sydd eisiau darn cwbl unigryw, mae’r rhain yn drysor angenrheidiol.

Crëwyd y gwaith gan y gof aur penigamp sy’n gweithio ym Mae Caerdydd, Neil Rayment, a dyma’r tro cyntaf i gasgliad helaeth o’r fath gael ei greu o ddyluniadau gwreiddiol Burges. Yr her oedd dehongli dyluniadau oes Fictoria a chreu casgliad o emwaith a fyddai’n apelio at farchnad gyfoes. Yn y casgliad mae breichledau, mwclis, pinnau tei a broetshys sy’n hardd a fforddiadwy.

 

Dewch i gael cipolwg gwell ar y casgliad yma.

 

 

 


 

Gostyngiad o 10% i ddeiliaid Allwedd y Castell.