Cyflwyniad

Sefydlwyd y gaer Rufeinig yng Nghaerdydd ar ddiwedd y 50au OC mae’n debyg, ar safle strategol lle’r oedd yn hawdd cyrraedd y môr. Mae cloddfeydd archeolegol a wnaed yn ystod yr 1970au yn awgrymu mai hon oedd y gyntaf o bedair caer, pob un o faint gwahanol, a safodd ar y safle presennol. Gellir gweld olion y wal Rufeinig hyd heddiw.

Ar ôl gorestyngiad y Normaniaid, adeiladwyd gorthwr y Castell, gan ailddefnyddio safle’r gaer Rufeinig. Rhannwyd y safle’n adrannau ,ewnol ac allanol, wedi eu gwahanu gan wal garreg enfawr. Codwyd y gorthwr cyntaf ar y mwnt gan Robert Fitzhamon, Arglwydd Normanaidd Caerloyw, ynghyd â llawer o’r amddiffynfeydd cynnar, mae’n debyg iddo gael ei adeiladu o goed. Dilynwyd hyn gan ragor o amddiffynfeydd ac annedd-dai canoloesol yn y man.

Bu’r Castell yn eiddo i lawer teulu bonheddig tan 1766, pan ddaeth teulu’r Bute yn berchen arno drwy briodas. Ail Ardalydd Bute oedd yn gyfrifol am droi Caerdydd yn un o borthladdoedd mwya’r byd am allforio glo. Aeth y Castell a chyfoeth Bute i’w fab John, 3ydd Ardalydd Bute, ac ef oedd dyn cyfoethocaf yn y byd erbyn yr 1860au, yn ôl y sôn.

O 1866 ymlaen, cyflogodd 3ydd Ardalydd Bute yr athrylith o bensaer, William Burges, i weddnewid ystafelloedd byw’r Castell. Gyda thyrrau gothic fe greodd ystafelloedd goludog, yn gyforiog o furluniau, gwydr lliw, marmor, goreuro a cherfluniau mirain o bren. Mae gan bob ystafell grand ei thema arbennig ei hun, gan gynnwys gerddi Mor y Canoldir ac addurniadau Eidalaidd ac Arabaidd.

Bu farw’r 3ydd Ardalydd yn 53 oed, yn 1900. Roedd wedi trawsnewid y Castell yn Gamelot Fictoraidd Cymreig - yn adeilad sydd bellach yn un o arwyddocâd rhyngwladol. Er gwaethaf tollau marwolaeth enfawr y stad, gorffennodd y 4ydd Ardalydd lawer o brojectau adfer ei dad gan gynnwys ailgodi’r wal Rufeinig. Parhaodd y teulu Bute i aros yn y Castell dwy’r 1920au a’r 1930au, er eu bod wedi gwerthu llawer diddordeb busnes yn Ne Cymru. Yn dilyn marwolaeth y 4ydd Ardalydd Bute, penderfynodd y teulu roi‘r Castell a llawer o’i erddi, a adwaenwyd fel Parc Bute, i ddinas Caerdydd. Am 25 mlynedd, roedd y Castell yn gartref i’r Coleg Cerdd a Drama Cenedlaethol ac ers 1974 bu’n un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.

‘Hanfodion Castell Caerdydd/The Essential Cardiff Castle' gan Guradur y Castell, Mathew Williams, yw’r cyfeirlyfr gorau i gael hanes rhyfeddol y safle ac mae ar gael o Siop Anrhegion y Castell.