Bwystfilod Bach

29
Hydref
01
Tachwedd

Ydych chi'n ddigon dewr i gael ychydig o hwyl Calan Gaeaf yng Nghastell Caerdydd? Ie! Yna gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod draw am gyfarfyddiad agos cyffrous â rhai Bwystfilod Bach go iawn!

Ymunwch â ni ar siwrnai o ddarganfod, yn bleserus ac yn addysgiadol, lle byddwch chi'n cael cyfle i ddod yn agos ac yn bersonol gydag anifeiliaid sydd fel arfer i'w gweld mewn sŵau yn unig.

O gynrhon a brogaod i fadfallod a nadroedd; bydd yn ddigon i wneud i'ch croen gropian!

 

Archebu'n Hanfodol

Tocynnau: £5

Mynediad AM DDIM i blant o dan 1 mlwydd oed

 

29/10/2019 01/11/2019
10:15 10:15
11:30 11:30
12:45 12:45
Book now Book now