Neidio i'r prif gynnwys

Anturiaethau Pinocchio

Dyddiad(au)

03 Aws 2021 - 09 Aws 2021

Amseroedd

13:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Nid bachgen cyffredin mo Pinocchio. A dweud y gwir, nid bachgen go iawn mohono o gwbl! Pyped pren yw Pinocchio, sy’n dod yn fyw drwy hud a lledrith ac… mae ei anturiaethau’n dod ag ef i Gastell Caerdydd!

Mae’r fersiwn newydd hon o’r stori deuluol glasurol yn ymuno â’n harwr pren wrth iddo ddechrau ar gyrch pwysig. Mae’r meistr Pyped drwg, Stromboli, wedi defnyddio grymoedd hud drwg i gynhyrfu’r bydysawd mewn ymgais i reoli’r byd! Dim ond Pinocchio all ddod o hyd i’r gemau hud – yr unig ffordd i atal Stromboli ac efallai… efallai… i helpu Pinocchio i ddod yn fachgen go iawn.

Mae stori Pinocchio wedi gafael yn nychymyg plant ers dros ganrif. Mae’r fersiwn newydd hon yn llawn antur, chwerthin a chaneuon gwreiddiol ac yn cynnig profiad theatr awyr agored gwych yr haf hwn i’r teulu cyfan – a dydy hynny ddim yn gelwydd!

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.