Beth wyt ti'n edrych am?
Blackbeard's Treasure gyda Iszi Lawrence
Dyddiad(au)
23 Ebr 2023
Amseroedd
13:00
MWY O WYBODAETH...
Gŵyl Llên Plant Caerdydd
Blackbeard’s Treasure gyda Iszi Lawrence
Awgrymir ar gyfer: 7+
Iaith: Saesneg
Stori fôr-ladron dreiddgar wedi’i gosod yn y ddeunawfed ganrif yn ystod oes aur y môr-ladron yn y Caribî, sy’n berffaith ar gyfer ffans Emma Carroll a Jacqueline Wilson.
Mae’n 1718: mae llongau môr-ladron yn hwylio’r cefnforoedd a meistri caethweision creulon yn rheoli’r planhigfeydd.
Mae Abigail Buckler, sy’n un ar ddeg oed, yn byw gyda’i thad yn y Caribî. Mae ei dillad wedi’u gwneud o fwslin gorau fel nad yw’n gallu chwarae ynddyn nhw, nid bod unrhyw un i chwarae gyda nhw beth bynnag. Dyw hi ddim hyd yn oed yn cael mynd allan ar ei phen ei hun. Ond pan fydd môr-ladron yn ymosod bydd bywyd Abigail yn newid am byth. Yn sydyn mae popeth mae’n ei gwybod am fod yn iawn neu’n anghywir, da a drwg, yn datod.
Efallai nad oes rhaid i Abigail fod mor uchelael wedi’r cyfan…
Gyda chefnogaeth Bloomsbury