Neidio i'r prif gynnwys

Blue Evolution

Dyddiad(au)

09 Aws 2021

Amseroedd

20:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Blue Evolution yw un o gyfrinachau gorau Cymru. Ffurfiwyd y band blues trydan 5 dyn ddiwedd 2017 gan y gitarydd Chris Davey a’r gitarydd bas Dave Mac.

Ynghyd â’r gitarydd rhythm Altraetandro Abet, y drymiwr Gary Phillips a’r chwaraewr bysellfwrdd Dan Johnson maent wedi gwthio ffiniau newydd gyda’u sioeau byw cyflym tra’n esblygu eu sain arbennig yn gyson.

Cafodd eu albwm presennol Skin and Bones ei recordio yn stiwdios Horse Latitude y chwedlonol Robbie Kreigers yn Los Angeles yn ystod 2017. Gyda chymorth y cynhyrchydd Eric Corne (Walter Trout/ John Mayall ) saernïodd y band y 10 o’u caneuon eu hunain sydd ar gael ar bob safle ffrydio mawr.

Roedd 2020 yn mynd i fod yn flwyddyn dyngedfennol gyda gigs ac ymddangosiadau mewn gwyliau wedi’u trefnu ledled y DG ac Ewrop, ond mae’r band wedi bod yn gweithio’n galed ar ddeunydd newydd a sioe fyw gyffrous newydd a fydd i’w gweld am y tro cyntaf yn 2021 Yn Fyw Dan y Sêr yn y ddinas sy’n gartref iddynt – Caerdydd.

Mae band Blue Evolution wedi’i leoli yn ne Cymru ond mae eu ffans i’w cael ym mhob cwr o’r byd. Os ydych chi’n hoffi eich cerddoriaeth yn fyw ac yn gyffrous yna mae bechgyn Blue Evolution yn bendant yn werth eu gwylio, a pha le gwell i’w dal eto neu yn wir am y tro cyntaf erioed nag yng Nghastell Caerdydd yn 2021.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.