Neidio i'r prif gynnwys

Bring Them Home

Dyddiad(au)

07 Aws 2021 - 08 Aws 2021

Amseroedd

20:00 - 22:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Mae Yn Fyw Dan y Sêr Caerdydd yn falch o fod yn dod â’n sêr West End ADRE’N ÔL mewn cyngerdd dathlu yng Nghastell Caerdydd i agor Yn Fyw Dan y Sêr 2021 yng Nghastell Caerdydd.

Bydd hi’n flwyddyn ers i berfformiadau byw ddod i ben oherwydd pandemig Covid19, ac rydyn ni’n gwybod y bydd cynulleidfaoedd unwaith eto’n mwynhau gweld ein perfformwyr arobryn yn y West End, gan gynnwys Sophie Evans (Wizard of Oz, Wicked), Lucie Jones (Les Miserables, Legally Blonde, Waitress), Caroline Sheen (Chitty Chitty Bang Bang, Mary Poppins), David Thaxton (Phantom of the Opera, Les Miserables) a Gruffydd Wyn (Britain’s Got Talent, Cân I Gymru) am gyngerdd untro o ganeuon a cherddoriaeth o’r West End y tu mewn i furiau eiconig Castell Caerdydd.

Caiff y cynhyrchiad newydd sbon unigryw ei guradu a’i arwain gan Matt Brind, a aned yng Nghaerdydd, ac mae’n cynnwys eich hoff ganeuon o fyd y theatr gerdd wedi eu perfformio gan ein cwmni Cymreig ein hunain sydd o safon byd.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.