Beth wyt ti'n edrych am?
Calan Gaeaf: Bwystfilod Bach
Dyddiad(au)
26 Hyd 2024
Amseroedd
10:15 - 16:30
MWY O WYBODAETH...
Mae’n bryd i chi orchfygu ychydig o ofnau a ffobiâu gyda dychweliad ein cyfarfyddiadau anifeiliaid bythol boblogaidd ar thema Calan Gaeaf.
Ymunwch â’n ffrindiau o’r Dinosaur, Wildlife & Education Centre, gan y byddant yn dod â chast cyfan o greaduriaid lliwgar i’ch cyfarfod. Allwch chi ymdopi â tharantwla brawychus yn cropian ar draws eich brest, neidr droellog yn llithro ar hyd eich ysgwyddau, neu sgorpion sinistr yn sgutio eich braich? Dewch draw i gael gwybod!
Bydd y sesiynau awr o hyd hyn yn galluogi ymwelwyr i ddod yn agos at amrywiaeth egsotig o greaduriaid iasol, gan gynnwys mamaliaid, ymlusgiaid, pryfed ac adar.
Mae pob tocyn yn costio £7.50 y person, mae babanod dan 12 mis yn mynd am ddim.
Amseroedd y Sesiynau | |||
10:15 | 11:30 | 12:45 | 14:15 |
15:30 |