Beth wyt ti'n edrych am?
City Hospice Forever Flowers
Dyddiad(au)
30 Gorff 2022 - 14 Aws 2022
Amseroedd
10:00 - 16:00
MWY O WYBODAETH...
Mae City Hospice Forever Flowers yn rhoi cyfle i’n cymuned ddathlu a chofio bywydau’r rhai rydym wedi’u colli.
Rydym yn falch iawn unwaith eto i ddarparu modd i’r cyhoedd ddathlu bywyd a chofio am anwyliaid gyda Blodau Am Byth Hosbis y Ddinas yn un o leoliadau mwyaf eiconig Caerdydd, Castell Caerdydd.
Mae Forever Flowers wedi’i hysbrydoli gan yr heriau parhaus o amgylch profedigaeth, a’n dymuniad i gefnogi pobl gyda’u galar. Blodyn yr Haul yw’r dewis o flodau eleni, sydd i lawer yn symbol o bositifrwydd, edmygedd, teyrngarwch a defosiwn.
Arddangosfa syfrdanol ar dir Castell Caerdydd.
Bydd miloedd o Flodau Haul metel hardd yn ymddangos mewn arddangosfa syfrdanol ar dir Castell Caerdydd rhwng 30 Gorffennaf a 14 Awst 2022. Bydd Eich Blodyn Haul yn rhan o’r arddangosfa arbennig hon er cof am rywun rydych chi’n ei garu. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen yr achlysuron hyn arnom i ddathlu bywyd. Yn ystod dau ddiwrnod olaf yr arddangosfa, bydd croeso i chi fynd â’ch blodyn i ffwrdd a’i roi mewn gofod sy’n arbennig i chi.