Neidio i'r prif gynnwys

DEPOT yn y Castell – Rag’n’Bone Man

Dyddiad(au)

09 Gorff 2022 - 10 Gorff 2022

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Bydd Rory Charles Graham, sy’n cael ei adnabod yn well fel y Rag’n’Bone Man, yn arwain set nos Sadwrn yng Nghastell Caerdydd yr haf nesaf.

Mae Rag’n’Bone Man yn ganwr a chyfansoddwr o Loegr; rhyddhawyd ei sengl boblogaidd gyntaf Human yn 2016. Enillodd ei albwm aml-blatinwm, dan yr enw Human hefyd wobr y British Breakthrough Act a Gwobr Dewis y Beirniaid yn y BRITS yn 2017, ac enillodd y prif drac wobr y sengl Brydeinig Orau.

Bellach wedi’i sefydlu’n gadarn fel un o artistiaid mwyaf llwyddiannus Prydain dros y degawd diwethaf, mae Rag ‘n’ Bone Man ar y ffordd i fod yn un o ddoniau mwyaf dilys a gwreiddiol y ddegawd.

Daeth ei ail LP, Life By Misadventure, allan ym mis Mai eleni a dyma’r albwm a werthodd gyflymaf gan artist unigol yn 2021 pan gafodd ei ryddhau. Cyrhaeddodd rif 1 ar Siart Albymau Swyddogol y DU ac fe’i rhagflaenwyd gan y senglau All You Ever Wanted ac Anywhere Away From Here – deuawd gyda’r seren bop Pinc.

A Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf, bydd Rag ‘n’ Bone Man yn chwarae ym mhrifddinas Cymru fel rhan o ŵyl ddeuddydd flynyddol Caerdydd, DEPOT yn y Castell.

Wedi’i leoli yn amgylchedd eiconig tiroedd y castell, mae perfformwyr blaenorol dros y blynyddoedd wedi cynnwys y Kaiser Chiefs, Tom Grennan, Ella Eyre, Clean Bandit a The Fratellis.

Dilynir Nos Sadwrn DEPOT yn y Castell sy’n gwerthu werthu allan bob amser gan ddiwrnod llawn hwyl sy’n addas i deuluoedd ar y Dydd Sul, gan wneud penwythnos epig o gerddoriaeth dda, bwyd da ac amser da.

Mae DEPOT yn y Castell yn cael ei drefnu a’i redeg gan DEPOT Live, cangen digwyddiadau byw brand DEPOT.   Dwedodd Nick Saunders o DEPOT Live: “Rydym wrth ein bodd o fod yn dod â Rag ‘n’ Bone Man i brifddinas Cymru yr haf nesaf.”

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.