Neidio i'r prif gynnwys

Diana Ross

Dyddiad(au)

10 Meh 2022

Amseroedd

17:00 - 22:30

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Mae’r seren fyd-eang Diana Ross wedi ychwanegu dyddiad arall yng Nghastell hanesyddol Caerdydd yn rhan o’i thaith o Ddiolch yn Haf 2022, a hynny ddydd Gwener 10 Mehefin 2022.

Yn un o’r artistiaid recordio a’r diddanwyr mwyaf llwyddiannus erioed, mae Diana Ross wedi llywio sain cerddoriaeth boblogaidd. Yn y 1960au teyrnasodd fel Brenhines Motown, gan arwain The Supremes i ddominyddu’r siartiau gyda chaneuon fel Baby Love, Stop! In the Name of Love, a You Keep Me Hangin’ On.

Dim ond un diddanwr yn y byd sydd wedi diffinio cenhedlaeth o gerddoriaeth a diwylliant poblogaidd ac sydd wedi cyffwrdd â chalon dynol ryw. Fe’i galwyd yn arloeswraig, arweinydd, eicon, ac yn fythgofiadwy.  Bydd Ms Ross yn rhyddhau albwm newydd ar 5 Tachwedd.    Rhyddhawyd y trac teitl o’i halbwm sydd ar y gweill, Thank You, yr haf hwn fel llais o ddiolchgarwch ac ymroddiad personol i’w chynulleidfaoedd dros y blynyddoedd.  Cyd-gyfansoddodd a rheolodd Ms Ross bob cân ar yr albwm gan gyfleu neges o ddiolchgarwch.

Mae Diana Ross yn dychwelyd i’r DU ym mis Mehefin 2022 gyda’i Thaith o Ddiolch i rannu ei cherddoriaeth, ei hatgofion a hud ei gyrfa gyda’i ffans.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.