Neidio i'r prif gynnwys

Forever Flowers

Dyddiad(au)

24 Gorff 2021 - 08 Aws 2021

Amseroedd

09:00 - 17:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Yr haf hwn fe’ch gwahoddir i gofio rhywun arbennig drwy Forever Flowers Hosbis y Ddinas. Bydd cannoedd o flodau Forever Flowers yn cael eu harddangos ar dir Castell Caerdydd i greu arddangosfa hardd, lle gall aelodau o’r cyhoedd ddod at ei gilydd i gofio a thalu teyrnged i’w hanwyliaid rhwng 24 Gorffennaf a 8 Awst 2021.

Os hoffech fod yn rhan o Forever Flowers a phrynu blodyn fydd yn rhan o’r arddangosfa yng Nghastell Caerdydd, ewch i cityhospice.org.uk/forever-flowers neu cysylltwch â Hosbis y Ddinas ar 029 2052 4150.

Mae’r blodau’n £18 yr un. Rhoddir cyfle i gefnogwyr gasglu eu blodau o Gastell Caerdydd ar 7 a 8 Awst, neu bydd eu Blodau’n cael eu hanfon atynt drwy’r post yn dilyn yr arddangosfa, er mwyn iddynt eu harddangos gartref neu yn eu gardd eu hunain.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.