Beth wyt ti'n edrych am?
Glitterbox
Dyddiad(au)
01 Gorff 2023
Amseroedd
14:00 - 23:00
MWY O WYBODAETH...
SHANGRI-LA yn cyflwyno
GLITTERBOX
Yn fyw yng Nghastell Caerdydd ar ddydd Sadwrn 01 Gorffennaf 2023
Drysau: 14:00
Cyfyngiadau Oedran: 18+
Tocynnau blaenoriaeth ar werth o ddydd Iau, 23 Chwefror 2023 am 10:00
Tocynnau cyffredinol ar werth o ddydd Gwener, 24 Chwefror 2023 am 10:00
Bydd Glitterbox yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghymru yng Nghaerdydd yr haf hwn – gan feddiannu tir hanesyddol y castell am ddiwrnod arbennig o gerddoriaeth tŷ a disgo.
Mae’r awyrgylch parti – cysyniad a ddaeth i fod yn wreiddiol drwy bennaeth Defected, Simon Dunmore – wedi creu digwyddiadau cynhwysol, twymgalon wedi’u hysbrydoli gan Oes Aur Disco, ac sydd â’r nod o uno pob oed, a phobl o bob math a phob cefndir mewn dawns.
Ar ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf, gall pobl Cymru gael profiad o ffenomenon Glitterbox yn ei holl ogoniant – gyda pherfformwyr, dawnswyr ac artistiaid drag anhygoel, a thrac sain nu-disco, cerddoriaeth tŷ ac anthemau clasurol, y cyfan yn siŵr o greu parti i’w gofio.
GWYBODAETH CWSMERIAID
Nid yw Castell Caerdydd yn gyfrifol am reoli’r digwyddiad hwn, nid ydym yn delio ag unrhyw werthiant tocynnau ac ni allwn roi cyngor na diweddaru unrhyw archebion.
Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau, cysylltwch yn uniongyrchol â gwasanaethau cwsmeriaid eich darparwr tocynnau, gan ddyfynnu eich cyfeirnod archebu.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â:
DEPOT Live
Tel: 029 2022 0491
bookings@depotcardiff.com