Neidio i'r prif gynnwys

Llwybr Llusernau ar Thema Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud

Dyddiad(au)

29 Tach 2021 - 03 Ion 2022

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Ewch am dro ar hyd y llwybr llusernau yn y Sgwâr Cyhoeddus a darganfod llwybr llusernau ar thema Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud – gyda Thŷ’r Castell hardd yn gefndir. Ochr yn ochr ag Alys, ceir llawer o’r cymeriadau gwych o’r llyfrau enwog gan gynnwys y Llew a’r Uncorn, y Griffon, y Gwningen Wen, y Marchog Coch a Gwyn, y Dduges Ddig, rhai o’r Gwarchodwyr ac wrth gwrs llawer o Fflamingos hyfryd. Mae hyd yn oed cymeriad Pwdin Nadolig bron yn ddigon da i’w fwyta!