Neidio i'r prif gynnwys

Only Men Aloud a Ffrindiau

Dyddiad(au)

02 Aws 2021

Amseroedd

20:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Only Men Aloud gyda’r gwestai arbennig iawn John Owen-Jones, seren y West End a Broadway sydd wedi torri record arbennig ac ennill gwobrau lu.

Mae Only Men Aloud wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd ers ugain mlynedd. Fe’u ffurfiwyd yn y flwyddyn 2000, gyda’r gobaith y gallent chwistrellu rhywfaint o fywyd a gwaed newydd i draddodiad canu corawl corau meibion Cymru. Mae’r dynion wedi dod yn adnabyddus am eu lleisiau cryf a’u repertoire amrywiol ac eclectig. Bydd cyngerdd OMA nodweddiadol yn cynnwys amrywiaeth o arddulliau cerddoriaeth. Emynau a chaneuon gwerin Cymreig, Opera a Theatr Gerdd draw i Swing, Acapella a cherddoriaeth Bop.

Ddeuddeg mlynedd yn ôl, nhw oedd yr olaf ar eu traed ar ddiwedd cyfres Last Choir Standing BBC One ac arweiniodd hynny at gytundeb albwm gydag Universal Records. Yn 2010, enillon nhw Wobr Classical Brit am Albwm Gorau’r Flwyddyn. Maent wedi teithio bob blwyddyn ers ennill y sioe, dros y byd i gyd ac maent wedi gwerthu dros 300,000 o’u recordiau.

Dewch i fwynhau synau OMA yn amgylchedd eiconig Castell Caerdydd.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.