Beth wyt ti'n edrych am?
Picnic Brenhinol
Dyddiad(au)
07 Mai 2023
Amseroedd
12:00 - 16:00
MWY O WYBODAETH...
Brynhawn Sul rydym yn gwahodd y cyhoedd i wisgo’n smart, ymgynnull teulu a ffrindiau ac ymuno gyda’n gilydd yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Picnic Brenhinol fel rhan o Ginio Mawr y Coroni. Bydd y dathliadau’n cynnwys rhaglen o gerddoriaeth fyw ac adloniant symudol ar thema, gan greu awyrgylch dathlu a ffocws i bobl rannu bwyd a hwyl gyda’i gilydd. Anogir ymwelwyr i ddod â’u picnic eu hunain neu i wneud defnydd o’r cyfleusterau arlwyo yn y castell. Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim a bydd y castell yn parhau ar agor i’r cyhoedd drwy’r cyfan.