Neidio i'r prif gynnwys

Picnic Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Dyddiad(au)

05 Mai 2025

Amseroedd

11:00 - 17:00

Lleoliad

The Castle Green, Caerdydd Castle, Castle Street, Caerdydd, CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Bydd Castell Caerdydd yn cynnal picnic dathlu arbennig, ac mae trigolion yn cael eu hannog i gynnal partïon stryd i goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ddiweddarach eleni.

Mae’r digwyddiad am ddim hwn, ddydd Llun Gŵyl y Banc ar 5 Mai, yn rhan o ymgyrch Gŵyl Fwyd Prydain Fawr. Dan arweiniad Together Coalition, nod yr ymgyrch yw dod â chymunedau ledled Cymru a’r DU at ei gilydd i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyda pharti stryd, picnic yn eu parc lleol, neu drwy ymuno â digwyddiad cymunedol lleol.

Bydd y picnic, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Caerdydd a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym man agored cyhoeddus y Castell rhwng 11am a 5pm.

Bydd y digwyddiad sy’n addas i deuluoedd yn cynnwys amrywiaeth o adloniant am ddim. Disgwyliwch gerddoriaeth o’r llwyfan bandiau, diddanwyr yn crwydro’r maes gan gynnwys sioeau syrcas a phypedau yn ogystal â gweithgareddau crefft i blant. Nid oes angen tocynnau – galwch heibio i fwynhau’r hwyl.