Neidio i'r prif gynnwys

Nadolig Fictoraidd Siôn Corn | WEDI'I LENWI

Dyddiad(au)

01 Rhag 2023 - 23 Rhag 2023

Amseroedd

15:30 - 19:45

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Dewch i ymweld â Siôn Corn yng Nghastell Caerdydd y Nadolig hwn.

Rydym wrth ein bodd y bydd Siôn Corn ei hun unwaith eto yn dod o hyd i amser yn ei amserlen brysur i ymuno â ni, yma yng Nghastell Caerdydd. Yn wledd yr ŵyl i’r teulu cyfan, gall eich grŵp fwynhau taith breifat o amgylch y fflatiau sydd wedi’u haddurno’n hardd a dysgu am draddodiadau Nadolig Fictoraidd. Wedyn, cwrdd â Siôn Corn yn Parlwr y Castell a derbyn anrheg, ac yna danteithion tymhorol yn cael eu gweini yn y Llyfrgell. Peidiwch ag anghofio aros wrth siop anrhegion y Castell, lle byddwch yn cael gostyngiad os byddwch yn cyflwyno’ch tocyn.

MAE EICH TOCYN YN CYNNWYS:

  • Taith breifat o amgylch Apartments y Castell lle bydd tywysydd mewn gwisgoedd yn arwain eich grŵp ac yn dweud popeth wrthych am Nadolig Fictoraidd.
  • Helfa drysor â thema Nadoligaidd o amgylch yr ystafelloedd.
  • Cyfarfod preifat gyda Siôn Corn yn y Parlwr, gan gynnwys dewis o anrheg.
  • Gwin cynnes neu ddiod ysgafn a bisgedi am ddim yn y Llyfrgell.
  • Gostyngiad o 10%* yn Siop Anrhegion Nadolig y Castell.

PRISIAU TOCYN:

Mae prisiau 2021 wedi’u cynnal ar gyfer teithiau yn ystod yr wythnos.

  • Taith Breifat yn ystod yr wythnos £70 (i gynnwys hyd at 2 Oedolyn a 2 o Blant)
  • Taith Breifat Penwythnos £80 (i gynnwys hyd at 2 Oedolyn a 2 o Blant)
  • Plentyn Ychwanegol £15 (uchafswm o 6 ychwanegol)
  • Oedolyn Ychwanegol £10 (uchafswm o 4 ychwanegol)

Er mwyn darparu’r gwerth gorau, rydym yn caniatáu i grwpiau archebu tocynnau ychwanegol i deulu a ffrindiau agos. Mae hyn yn golygu y gall pob sesiwn gynnwys uchafswm llym o 6 Oedolyn ac 8 o Blant.

Bydd pob plentyn yn cael cyfarfod gyda Siôn Corn a bydd yn gallu dewis ei anrheg o blith detholiad o deganau heb eu lapio.

DYDDIADAU
Gwe 01 Rhag* Sul 03 Rhag
Iau 07 Rhag Gwe 08 Rhag
Sul 10 Rhag
Sad 16 Rhag
Sul 17 Rhag*
Iau 21 Rhag
Gwe 22 Rhag* Sad 23 Rhag*

* mae disgwyl i’r sesiynau hyn fod â Siôn Corn sy’n siarad Cymraeg ar gael. Fodd bynnag, oherwydd cyfyngiadau coronafirws, efallai y bydd angen newidiadau staff ar y funud olaf felly ni allwn warantu mai dyma fydd yn digwydd. Os hoffech gael eglurhad pellach cyn archebu, ffoniwch 029 2087 8100.

AMSEROEDD
15:30 15:45 16:00 16:15
16:30 16:45 17:00 17:15
17:30 17:45 18:00 18:15
18:30 18:45 19:00 19:15
19:30 19:45
Gwybodaeth Ychwanegol
  • Mae pris y tocyn yn cynnwys hyd at 2 Oedolyn a 2 Blentyn. Gellir prynu hyd at 4 tocyn ychwanegol i oedolion am £10 yr un a hyd at 6 lle ychwanegol i blant am £15 yr un. Dim ond 14 person a all fod mewn grŵp sy’n mynychu.
  • Mae angen tocynnau ar gyfer pob plentyn a phob oedolyn sy’n mynychu. Nid oes angen tocyn ar fabanod o dan 6 mis ond ni fyddant yn gallu gweld Siôn Corn na derbyn rhodd heb un.
  • Eleni, byddwn yn cynnig dewis o roddion na fydd yn cael eu lapio.
  • Mae’r tŷ yn adeilad hanesyddol ac mae angen defnyddio grisiau cerrig a drysau cul i’w gyrraedd. Mae’n ddrwg gennym nad yw’r ystafelloedd yn hygyrch i’r rhai sydd ag anawsterau symudedd nac yn addas i’r rheiny â chadair olwyn.
  • Dim ond ar yr amser a nodir ar eich archeb y mae eich tocyn yn ddilys. Gan fod y digwyddiad yn un prysur, ni fyddwn yn gallu rhoi lle i chi os byddwch yn cyrraedd yn hwyr neu os dewch i’r sesiwn anghywir. Dylech gyrraedd 10 munud cyn dechrau eich sesiwn. Mae llawer o ddigwyddiadau ac atyniadau yn y Castell drwy gydol cyfnod y Nadolig felly efallai yr hoffech gyrraedd yn gynnar i fanteisio ar y rhain.
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o amser i gyrraedd y Castell. Rydym yng nghanol prifddinas brysur. Bydd amseroedd teithio’n hirach ym mis Rhagfyr oherwydd llawer o draffig a mwy o alw am leoedd parcio. Nid oes lleoedd parcio ar gael ar y safle.
  • Ni fydd ffotograffydd swyddogol yn bresennol ond mae croeso i chi dynnu cymaint o luniau ag y dymunwch drwy ddefnyddio camerâu a ffonau clyfar.  Ni chaniateir ffilmio’r ymweliad.
  • Ni ellir mynd â chadeiriau gwthio y tu mewn i’r Tŷ Fictoraidd.  Rhoddir gwybod i chi ble i adael cadeiriau gwthio wrth gyrraedd.
  • Os bydd angen canslo sesiwn yn annisgwyl o ganlyniad i dywydd gwael neu amgylchiadau na ragwelwyd, ad-delir arian yn llawn dim ond os nad yw amser neu ddyddiad gwahanol ar gael.  Os ydych yn credu bod posibilrwydd y gallai’ch sesiwn gael ei chanslo, er mwyn osgoi siom, cysylltwch â’r Castell ar 029 2087 8100 cyn teithio.
  • Ni ellir ad-dalu na chyfnewid tocynnau. Os bydd unrhyw ddigwyddiad yn cael ei ganslo, yna bydd costau’r tocynnau’n cael eu had-dalu, fodd bynnag, bydd yr asiant yn cadw unrhyw ffioedd archebu.  Efallai yr hoffech ystyried cael yswiriant gyda’ch tocynnau wrth archebu.
Telerau ac Amodau
  • Rwyf wedi darllen a deall y wybodaeth ychwanegol a roddwyd wrth archebu (mae’r wybodaeth hon hefyd wedi’i hargraffu ar eich e-docyn).
  • Rwy’n cadarnhau fy mod yn cytuno i gadw at yr holl reolau tra ar y safle.
Cwestiynau Cyffredin

Y BROSES ARCHEBU

  • Pryd ydw i’n gallu archebu tocynnau?

Bydd tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd o 10:00 ar ddydd Llun 02 Hydref 2023.  Bydd dolen i Ticketsource ar gael ar ein gwefan.

  • Ydw i’n gallu ffonio neu e-bostio’r Castell i archebu tocynnau?

Na allwch.  Ni allwn gymryd archebion yn uniongyrchol.  Mae angen archebu pob tocyn trwy Ticketsource.

  • Rwy’n cael neges gwall wrth archebu?

Cysylltwch â Ticket Source yn uniongyrchol ar 0333 666 44 66

  • Ydw i’n gallu ychwanegu pobl at fy archeb ar ôl i mi gwblhau fy nhrafodyn?

Na allwch.  Nid yw’n bosibl ychwanegu pobl at eich archeb ar ôl iddo gael ei gwblhau felly gofynnwn i chi gynllunio ymlaen llaw o ran faint o docynnau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich grŵp.

  • Ydw i’n gallu newid amser neu ddyddiad fy archeb ar ôl i mi gwblhau fy nhrafodyn?

Na allwch.  Oherwydd y lefel uchel o ddiddordeb a ragwelir a’r nifer cyfyngedig o leoedd, ni allwn wneud newidiadau i’ch archeb.  Felly mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod wedi dewis y dyddiad a’r amser cywir yn ystod y broses archebu.

  • Beth os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo?

Os bydd y teithiau Nadolig yn cael eu canslo, am ba reswm bynnag, naill ai gennym ni, Llywodraeth Cymru, tywydd garw, gweithred Duw, wedyn byddwn yn ad-dalu’r swm a dalwyd AC EITHRIO FFI TICKETSOURCE.  rydym yn eich cynghori i ystyried prynu’r yswiriant a gynigir gan Ticket Source i gael ad-daliad llawn.

  • Pam fod y teithiau penwythnos yn costio mwy?

Er ein bod wedi gobeithio cynnal prisiau 2021 ar gyfer pob dyddiad eleni, roedd costau gweithredol uwch ar benwythnosau oherwydd cyflogau staff, ac ati, yn golygu y byddai hyn wedi bod yn amhosibl. Bydd y cynnydd yn y pris ar benwythnosau yn helpu tuag at liniaru’r costau hynny, gan ganiatáu i ni gynnal sesiynau yn ystod yr wythnos am y prisiau blaenorol.

 

Gwybodaeth Am Y Teithiau
  • A yw’r teithiau dan do neu yn yr awyr agored?

Mae’r teithiau Nadolig dan do yn ystafelloedd y Castell gan gynnwys Ystafell Ysmygu’r Gaeaf, y Feithrinfa, y Neuadd Wledda, yr Ystafell Fwyta Fach a’r Ystafell Groeso. Mae angen defnyddio grisiau i gyrraedd yr ystafelloedd hyn ac felly nid yw’n addas i gadeiriau gwthio na phobl â phroblemau symudedd.

  • Am ba hyd bydd y teithiau’n para?

Bydd y teithiau, gan gynnwys yr ymweliad â Siôn Corn, yn para am hyd at 40 munud.

  • Rydw i mewn cadair olwyn, ydw i’n gallu mynychu o hyd?

Yn anffodus, oherwydd natur hanesyddol yr adeilad a’i risiau niferus, nid yw’r profiad hwn yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu bobl â phroblemau symudedd.

  • Mae gen i gadair wthio, ydw i’n gallu mynd â hi ar y daith?

Ni allwn ganiatáu cadeiriau gwthio yn ystafelloedd y Castell a gofynnwn i chi beidio â dod ag un ar y safle. Fodd bynnag, os oes angen i chi ddod â chadair gwthio gyda chi, dangosir i chi lle gellir ei gadael. Sylwch y bydd unrhyw eitemau sydd ar ôl ar risg y perchennog.

  • Ydy’r teithiau’n addas i fabanod?

Crëwyd y teithiau hyn i ddangos a disgrifio Nadolig Fictoraidd i deuluoedd, ac mae’r cynnwys yn berthnasol i blant iau. Mae babanod ifanc iawn yn dal i allu mynychu. Nid oes angen i chi brynu tocyn ar gyfer babanod llai na 6 mis oed ond ni fydd babi heb docyn yn cael anrheg gan Siôn Corn. Croeso i blant hŷn fynychu a bydd tywyswyr y teithiau yn ceisio addasu cynnwys y daith i gynnal eu diddordeb lle bo hynny’n bosibl.

  • Faint o’r gloch dylwn i gyrraedd ar gyfer fy nhaith?

Pan fyddwch yn archebu, byddwch yn cael yr amser cychwyn ar gyfer eich taith, cynlluniwch i gyrraedd gydag amser i’w sbario cyn eich taith. Tua 10 munud cyn i’r daith ddechrau, ewch i fyny i’r oriel i gwrdd â’ch tywysydd (bydd staff wrth law i roi cyfarwyddiadau os oes angen). Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer eich taith, efallai y byddwch yn colli rhan neu’r cyfan o’ch profiad, nodwch na fydd ad-daliadau yn cael eu rhoi ar gyfer cyrraedd yn hwyr.

  • Fydd fy mhlentyn yn gallu eistedd wrth ymyl Siôn Corn?

Bydd.  Bydd lle i’ch plentyn eistedd neu sefyll gyda Siôn Corn, siarad ag ef a thynnu lluniau.

  • Mae gen i anghenion dietegol, a fydd dewis arall addas i’r bisgedi?

E-bostiwch castellcaerdydd@caerdydd.gov.uk i roi gwybod i ni am eich gofyniad dietegol, gan gynnwys eich cyfeirnod archebu, gyda dyddiad ac amser eich ymweliad, a byddwn yn ymdrechu i ddarparu dewis arall addas.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.