Neidio i'r prif gynnwys

Walk Like a Man

Dyddiad(au)

03 Aws 2021

Amseroedd

20:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Walk Like a Man yw’r sioe deyrnged arobryn gorau i Frankie Valli a’r Four Seasons ynghyd â’r ffenomenon cerddorol go iawn, THE JERSEY BOYS.

Gyda lleisiau anhygoel, symudiadau slic, cymeriadau heintus a cherddoriaeth fythol wyrdd, mae’n debyg mai ‘Walk Like A Man’ yw un o’r sioeau mwyaf poblogaidd ledled y Deyrnas Gyfunol. Gallai hyn hefyd fod am fod ein ‘Jersey Boy’ ein hunain ar y llwyfan. Crëwyd y fersiwn hon gan Mark Halliday, sbardun gwreiddiol y cynhyrchiad hwn ac un o’r perfformwyr a serennodd yn y ‘The Jersey Boys’ yn y West End, gan ychwanegu ei brofiad uniongyrchol i sicrhau y bydd Walk Like A Man wedi eich bachu o’r cychwyn cyntaf.

Fyddwch chi ddim yn gallu gwrthsefyll clasuron fel ‘Big Girls Don’t Cry’, ‘Sherry’ ac wrth gwrs ‘Walk Like A Man’.

Felly archebwch nawr i osgoi siom ac i fwynhau’r sioe hon dan y sêr yn amgylchedd unigryw Castell Caerdydd. Fe welwch pam fod cynulleidfaoedd i’r sioe hon ar eu traed yn cymeradwyo lle bynnag y caiff ei pherfformio.