Neidio i'r prif gynnwys

Y Llew - Gwaith Celf Llewod Prydain ac Iwerddon

Dyddiad(au)

14 Gorff 2021 - 19 Gorff 2021

Amseroedd

10:00 - 16:00

Lleoliad

Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB

Map Google

MWY O WYBODAETH...

Mae Sky Sports yn dathlu taith Llewod Prydain ac Iwerddon o Dde Affrica gyda gwaith celf arbennig gan yr artist canfyddiadol blaenllaw, Michael Murphy.

Mae’r cerflun rhith aml-gyfeiriadol yn sefyll wedi’i atal o fewn truss saith metr wrth saith metr ac mae wedi’i ffurfio o dri chant o bibellau, wedi’u lapio â 180 metr o brintiau finyl.

Yr unig ffordd i werthfawrogi’r gwaith celf canfyddiadol hwn yn llawn yw ei weld yn ei leoliad trwy gerdded o’i gwmpas. Wrth edrych arno o’r onglau cywir, mae’r gwaith celf yn ffurfio chwaraewr Llewod ar un ochr a phen Llew ar yr ochr arall.

Rhannwch lun o’r Llew ar Twitter neu Instagram a gallech ennill un o bum crys Llewod wedi’u llofnodi gan dîm Sky Sports Lions. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r hashnod #skysportslions a thagio @skysports!

Mae’r gwaith celf wedi’i leoli yn Sgwâr Cyhoeddus y Castell, gyda mynediad am ddim rhwng 10:00 – 16:00 o ddydd Mercher, 14 Gorffennaf i ddydd Sul, 19 Gorffennaf.

O ddydd Sadwrn, 17 Gorffennaf, bydd Sky Sports yn lansio Sky Sports The Lions. Bydd y sianel pop-up hon ar gael am 24 diwrnod yn lle Sky Sports Action tan ddydd Mawrth, 10 Awst.

Ar y sianel fe welwch raglenni dogfen, gemau clasurol a sioe Sky Sports The Lions Breakfast ar ôl pob prawf yn ogystal â’r gemau byw a’r uchafbwyntiau.