Gwybodaeth Archebu
Ffoniwch ein Swyddfa Archebu i drefnu eich trip: 029 2087 8100
Cofiwch archebu'n gynnar! Mae'r Castell yn atyniad prysur a phoblogaidd, ac mae teithiau tywysedig a sesiynau yn y Ganolfan Addysg yn cael eu harchebu ymhell o flaen llaw.
- £3.75 y plentyn i Ysgolion Caerdydd; £4.50 y plentyn i bob ysgol arall o 1 Medi 2017
- £9.25 Oedolion (dros y gymhareb gytunedig o oedolion am ddim i blant)*
* Mae'r prisiau hyn yn gymwys ar gyfer grwpiau ysgol yn y DU yn unig
Cynigir lleoedd am ddim i athrawon ac oedolion eraill sy’n hebrwng y plant yn dibynnu ar oedran y grŵp. Gellir cael manylion wrth archebu. Rhaid archebu teithiau tywysedig a phob sesiwn yn y Ganolfan Addysg ymlaen llaw.
Meithrin
|
Dosbarth Derbyn
|
Bl 1 a 2
|
Bl 3-6
|
Bl 7 i fyny
|
1:3
|
1:5
|
1:6
|
1:10
|
1:15
|
Beth sydd wedi'i gynnwys yn eich tocyn:
- Taith dywys o amgylch y Tŷ
- Sesiwn yn y Ganolfan Addysg ( 75 munud; rhaid archebu o flaen llaw)*
- Defynyddio'r Taith Glywedol ar gyfer plant
- Ffilm a defnyddio ardaloedd y gerddi gan gynnwys y Gorthwr, Bylchfuriau,a'r Lloches Cyrchoedd Awyr o gyfnod y rhyfel
Mae hefyd adar ysglyfaethus ar y safle yn ystod yr wythnos, er na allwn warantu hyn.
*Codir tâl ychwanegol o £2.00 y pen os bydd angen y ddwy ystafell addysg arnoch.
Sut i archebu
Byddwn yn fwy na pharod i'ch cynorthwyo a’ch cynghori ynglŷn ag unrhyw agwedd o'ch ymweliad. Er mwyn gwneud archebu ymweliad â'r Castell mor ddiffwdan â phosibl, awgrymwn eich bod yn ystyried y canlynol cyn cysylltu â ni
- Y dyddiad a'r amser yr hoffech gyrraedd a gadael. Pe bai grŵp yn cyrraedd yn hwyr am eu trip byddwn yn ymdrechu i ddarparu ar eu cyfer ar amser gwahanol, ond ar adegau prysur o'r flwyddyn nid yw hyn bob amser yn bosibl. Felly cynghorwn ni chi i geisio cyrraedd yn ddigon cynnar cyn amser eich taith neu sesiwn addysg. DS: Gall traffig fod yn drwm yng nghanol y ddinas.
- Aseswch yr hyn yr hoffech ei gyflawni yn ystod eich ymweliad.Byddwn yn gofyn llawer o gwestiynau i chi, gan gynnwys y pwnc yr ydych yn ei astudio, oedran y plant ac a oes unrhyw blant ag anghenion arbennig. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig er mwyn i ni sicrhau ein bod yn anelu teithiau/sgyrsiau at y lefel gywir. Os oes rhywun arall yn trefnu’r ymweliad ar eich rhan (er enghraifft, ysgrifenyddes yr ysgol), a fyddech cystal â sicrhau bod yr unigolyn hwnnw yn ymwybodol o’ch anghenion.
- Aseswch a ydych yn dymuno mynd â'ch grŵp ar daith dywysedig yn unig, neu ymweld â'r tiroedd yn unig neu a hoffech ddefnyddio'r Ganolfan Addysg.Os ydych yn bwriadu archebu'r Ganolfan Addysg penderfynwch pa ystafell i'w defnyddio.
Sut i Dalu
Gellir talu am ymweliadau ysgol safonol ar y dydd ond os hoffech i ni eich anfonebu, rhowch wybod i ni ar adeg archebu.
Bydd angen talu am bob gweithdy yn llawn bythefnos cyn dyddiad y gweithdy. Caiff anfoneb ei anfon atoch i chi ar gyfer hyn.
Os ydych yn canslo archeb sydd eisoes wedi’i gadarnhau, bydd rhaid talu 50% o gyfanswm cost yr archeb ar gyfer y gweithdai arbennig a sesiynau addysgol safonol Os ydych yn canslo oherwydd tywydd gwael, cysylltwch â’r Swyddfa Addysg am gyngor pellach.