Neidio i'r prif gynnwys

GWYBODAETH AM EICH YMWELIAD SYDD I DDOD

Diben y wybodaeth ganlynol yw i’ch paratoi chi a’ch cynorthwywyr ar gyfer yr ymweliad rydych wedi’i drefnu â Chastell Caerdydd.

Sicrhewch fod pob oedolyn sy’n arwain y grwpiau yn ymwybodol o’r pwyntiau canlynol:

WRTH ARCHEBU

Byddwch yn cael llythyr cadarnhau yn nodi amser(oedd) eich gweithdy/gweithdai a’ch taith/teithiau os ydynt wedi’u trefnu neu eu cynnwys ym mhris y gweithdy fel y cynghorwyd wrth archebu. Dewch â’r cadarnhad hwn gyda chi a sicrhewch fod pob cynorthwywyr yn ymwybodol o’i gynnwys.

CYN CYRRAEDD

Asesiadau Risg

  • Mae gwybodaeth i’ch helpu gyda’ch asesiad risg ar gael yn yr adran “Addysg” ar ein gwefan – www.castell-caerdydd.com. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Elizabeth Stevens neu ffoniwch ar 029 2087 8110.

Ymweliadau Cyfarwyddo

  • Mae croeso i athrawon ddod mewn i edrych ar y cyfleusterau er mwyn ymgyfarwyddo â’r safle cyn eu hymweliad. Cysylltwch â’r Swyddog Addysg ar 029 2087 8110 i drefnu hyn.

Rhannu Grwpiau

  • Am resymau cadwraeth, cyfyngir grwpiau ysgol i uchafswm o 35 fesul taith o’r Castell (gan gynnwys athrawon/cynorthwywyr). Sicrhewch fod eich grwpiau wedi’u rhannu ymlaen llaw er mwyn arbed amser ar ôl cyrraedd.

WRTH GYRRAEDD

Mae prif fynedfa’r Castell ar Heol y Castell. Os nad oes digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y Castell, rydyn ni hefyd yn agor Porth y Gogledd, sydd yn arwain i Barc Biwt.

Nid ydy’n bosibl bellach i fysus ollwng yn uniongyrchol y tu allan i’r Castell. Mae mannau gollwng bysus agosaf yn y gilfan ar Heol y Gogledd (i gyfeiriad y Gogledd), ychydig y tu hwnt i’r Castell a’r tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mae map o’r rhain a’r mannau parcio coetsis ar gael ar gais ac mae gwybodaeth ar wefan Croeso Caerdydd.

AR ÔL CYRRAEDD

Ar ôl cyrraedd, rhaid i’r athro sydd â gofal dros y grŵp fynd i’r Swyddfa Docynnau i gadarnhau’r niferoedd a thalu neu arwyddo’r ddogfennaeth berthnasol yn achos ymweliadau lle anfonwyd anfoneb. Rhoddir lle diogel i’r grŵp er mwyn ymgynnull a gadael bagiau/pecynnau cinio.

Storio Bagiau

  • Am resymau cadwraeth, ni chaniateir i grwpiau gario bagiau gyda nhw pan fyddant ar daith. Bydd aelod o staff wrth y giât yn rhoi gwybod lle y gallwch adael eich bagiau. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o grwpiau eraill sy’n ymweld â’r Castell ar ddiwrnod eich ymweliad.
    Sicrhewch fod eich bagiau yn cael eu gosod mor daclus â phosibl i roi lle i grwpiau eraill a allai ddefnyddio’r un ardal. Peidiwch â gadael bagiau ar y byrddau.

Amseroedd eich Sesiynau

  • Os gwelwch yn dda, byddwch yn barod i’ch taith neu weithdy bum munud cyn dechrau unrhyw weithdy neu daith yr ydych wedi’u trefnu.
  • Gofynnir i grwpiau sy’n mynd ar daith dywys fynd at yr Oriel Deithiau ac ar ei hyd at y giât ar y pen, lle bydd tywysydd yn cwrdd â chi.
  • Sicrhewch fod y plant wedi bod yn y tŷ bach mewn da bryd cyn dechrau’r gweithdy neu’r daith. Os byddwch yn hwyr bydd yn rhaid byrhau’r teithiau a’r sesiynau ac efallai na fydd lle i unigolion sy’n hwyr.

Toiledau

  • Y toiledau mwyaf yw’r rhai yn y Ganolfan Addysg sydd i lawr y grisiau ger y Ganolfan Addysg a dim ond grwpiau ysgolion a gaiff eu defnyddio. Os ydych yn defnyddio’r rhain, byddwn yn ddiolchgar pe allech ofyn i’ch disgyblion fynd i’r ardal mor dawel â phosibl oherwydd mae’n bosibl bod sesiynau’n cael eu cynnal yn y Ganolfan Addysg. Byddwn yn gwerthfawrogi pe tasech chi’n gallu gwirio bod y tapiau wedi cael eu troi i ffwrdd ar ôl i’ch disgyblion ddefnyddio’r tai bach.
  • Lleolir toiledau eraill yn y Ganolfan Ddehongli, ar waelod y Twr Du (dynion) a Thŵr y Cloc (merched).

 Cinio

  • Nid oes gennym ardal ginio benodedig ond rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i le dan do i grwpiau ysgol fwyta eu cinio. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gofynnir i blant eistedd ar y llawr i fwyta’u cinio gan na fydd byrddau ar gael. Cewch wybod beth yw’ch lleoliad a’r amser ar ôl cyrraedd.
  • Cadwch at eich amseroedd cinio, os gwelwch yn dda a pheidiwch â gadael bagiau a chotiau ar fwrddau neu feinciau cyn neu ar ôl eich amser cinio.

Biniau

  • Lleolir biniau o amgylch y safle i chi eu defnyddio. Os bydd angen bagiau bin arnoch, gofynnwch i aelod o staff.

 Siop

  • Mae croeso i ddisgyblion ymweld â’r siop ond rhannwch y dosbarthiadau yn grwpiau bach a gofynnwch i’r plant sicrhau bod yr arian ganddynt yn barod wrth y til.

 Caffi’r Castell

  • Mae croeso i chi ddefnyddio Caffi’r Castell ar gyfer te, coffi a bwyd. Cedwir y byrddau tu mewn a thu allan i’r caffi ar gyfer cwsmeriaid y caffi – yn anffodus, ni all grwpiau ysgol eu defnyddio.

 Ffurflenni Gwerthuso

  • Byddwch yn cael ffurflen werthuso ar ôl eich ymweliad, a byddwn yn gwerthfawrogi eich adborth ar eich ymweliadau ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella.

Os hoffech gopi o'r wybodaeth hon yna mae dogfen Word ar gael i'w lawrlwytho:

Mae’r cynnwys hon hefyd ar gael yn y Gymraeg / This content is also available in Welsh

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.