10am – 2pm
Addas ar gyfer: Pob oed
Cost: £6.25 y plentyn*
*Nid yw taith dywys o amgylch y Castell neu fynediad i’r Gorthwr wedi’i chynnwys
Bydd y diwrnod addysgol cyffrous hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion brofi bywyd yn y Castell yn y Canol Oesoedd. Cyn y prif ymryson, bydd plant yn cael cyfle i weld sut roedd yswain yn helpu i wisgo ei feistr mewn harnais arfwisg, ac yna arddangosfa ymladd ysblennydd. Bydd hefyd wersyll canoloesol i’w grwydro, adrodd straeon ac arddangosfeydd jyglo.
Yna bydd Marchogion Brenhinol Lloegr yn mynd i arena Joust!, mewn sioe wefreiddiol sy’n llawn dawn, dewrder a marchogaeth. Yn ogystal â chefnogi eu hoff farchog, bydd y plant yn gallu gwylio gornestau cleisiog a marchogion yn syrthio o’u ceffylau. Digwyddiad gwych sy’n dal y sylw, yn gywir yn hanesyddol ac, uwch bopeth, yn adloniant ardderchog!
Mae elfennau o ddigwyddiad Joust! yn briodol i ysgolion sy’n astudio cyfnod y Tuduriaid.
Bydd perfformiadau cyhoeddus Joust! ar Ddydd Sadwrn 23 Ddydd Sul 24 Mehefin
Ffoniwch Elizabeth Stevens i gadw lle ar gyfer Joust! ar:029 2087 8110ebost: EStevens@cardiff.gov.ukNifer gyfyngedig o lefydd sydd i gael, felly peidiwch ag oedi rhag trefnu lle. |
Gwybodaeth Archebu Bwysig
Yn anffodus ni allwn gadw lle yn amodol ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Ni fydd ad-daliadau ar gael a byddwch yn derbyn anfoneb ar gyfer y nifer o ddisgyblion yr archebwch lefydd ar eu cyfer. Bydd angen taliad llawn ar gyfer Joust! o fewn mis o archebu.