Lawrlwytho ein app

Mae app swyddogol Castell Caerdydd ar gael i'w lawrlwytho cyn eich ymweliad neu drwy ddefnyddio'r pwynt Wi-Fi yn y Ganolfan Ddehongli wedi i chi gyrraedd.

Mae'r app yn cynnig holl gynnwys y daith glywedol, a gyflwynir gan Huw Edwards, ac mae ar gael drwy ddewislen y gellir sgrolio drwyddi, bysellbad neu safle y gellir ei chwyddo gyda phwyntiau Wi-Fi, delweddau o'r safle i gyd-fynd â'r wybodaeth a gyflwynir, gwybodaeth hanfodol ar gyfer cynllunio taith i'r Castell a dolenni i'r wefan.

Mae fersiwn i blant o'r app ar gael gyda darluniau gan Tim Archbold. Bydd ymwelwyr blaenorol yn adnabod y cymeriadau o'r ardal arddangos a'r byrddau gwybodaeth o amgylch y safle.

Dilynwch y dolenni isod i lawrlwytho'r daith glywedol i'ch iPhone neu ddyfais Android.

 

Download on the App Store

 

Get it on Google Play