Neidio i'r prif gynnwys

Cau yn Ystod Mis Rhagfyr

Yn dilyn y newidiadau diweddaraf i reoliadau coronafirws ar gyfer atyniadau treftadaeth, bydd Castell Caerdydd ar gau o Sad 5 Rhagfyr hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

Bydd y cyfnod cau hwn yn parhau tan o leiaf dydd Iau 17 Rhagfyr, yn dibynnu ar adolygiad cyntaf Llywodraeth Cymru o’r mesurau newydd hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae hyn yn ei olygu i docynnau Castell a Theithiau Fictoraidd Siôn Corn, gweler isod…

MYNEDIAD I’R CASTELL

Yn ystod yr amser hwn ni fydd mynediad cyffredinol i ardaloedd taledig y Castell yn bosib, a bydd unrhyw docynnau a archebwyd ymlaen llaw yn cael eu had-dalu’n awtomatig.

Bydd y Castell dal ar agor ar ddydd Iau 3 Rhagfyr a ddydd Gwener 4 Rhagfyr, os hoffech ymweld â ni cyn i ni gau, mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Y SGWÂR CYHOEDDUS

Bydd Sgwâr Cyhoeddus y Castell yn aros ar agor rhwng 10:00 – 18:00 bob dydd, felly dewch i mewn i fwynhau yr amgylchfeydd hyfryd. Bydd detholiad o fwyd a diod yn cael ei weini yn Wledda Ger y Gorthwr rhwng 10:00 – 17:00.

TEITHIAU FICTORAIDD SIÔN CORN

Yn anffodus, mae’r cyfyngiadau diweddaraf hefyd yn golygu y bydd yn rhaid i ni ganslo holl Deithiau Fictoraidd Siôn Corn o ddydd Sad 5 Rhagfyr tan o leiaf ddydd Mer 16 Rhagfyr. Ein hymddiheuriadau diffuant am unrhyw siom a achosir, bydd yr holl docynnau’n cael eu had-dalu mor gyflym â phosibl.

Unwaith y darperir diweddariadau i’r ganllawiau byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch y dyddiadau sy’n weddill ym mis Rhagfyr. Bydd sesiynau ar dydd Mawrth 1 Rhagfyr a dydd Iau 3 Rhagfyr yn mynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd.

Diolch i chi i gyd am eich dealltwriaeth barhaus, arhoswch yn ddiogel.

Os ydych chi’n ansicr o’r cyfyngiadau coronafirws diweddaraf, ewch i llyw.cymru i gael mwy o wybodaeth.