Neidio i'r prif gynnwys

Castell Caerdydd yn Ailagor

Dydd Llun, 17 Mai 2021


Bydd Castell Caerdydd yn ailagor ar ddydd Gwener 28 Mai 2021.

Bydd Castell Caerdydd yn ailagor i ymwelwyr yr wythnos nesaf, o’r diwedd!

Bydd deiliaid Tocyn y Castell ac Allwedd y Castell yn gallu cael mynediad i’r tu mewn unwaith eto, gan gynnwys Rhandai’r Castell, y Gorthwr Normanaidd ac Amgueddfa Firing Line. Bydd Teithiau Tŷ hefyd yn rhedeg eto ar gyfer y rhai sydd am weld a chlywed mwy am y chwarteri byw Fictoraidd.

Cofiwch, oherwydd gofynion pellhau cymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i rai o’r ardaloedd llai yn y Castell aros ar gau am y tro.

Mae tocynnau ar gael o heddiw ymlaen, gallwch glicio isod i archebu ac mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd agor a phrisiau ar gael ar ein gwefan.

Bydd Sgwâr Cyhoeddus poblogaidd y Castell yn parhau ar agor gyda mynediad am ddim i’r tiroedd, siop rhoddion a chaffi Teras y Gorthwr.

Gobeithiwn eich gweld yn fuan iawn.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.