Neidio i'r prif gynnwys

Castell Caerdydd yn Ailagor

28/01/2022


Cardiff Castle will be reopening to visitors from Saturday 29 January.

Ar ôl bod ar gau ers Dydd Nadolig, bydd Castell Caerdydd yn falch o godi’r porthcwlis ac agor ein gatiau i ymwelwyr unwaith eto o ddydd Sadwrn 29 Ionawr. Bydd y Sgwâr Cyhoeddus yn dychwelyd hefyd, gyda mynediad am ddim i bawb ddod i fwynhau’r tiroedd. Ni allwn aros i’ch croesawu i gyd yn ôl.

Cyn dod, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ein horiau agor a’n prisiau, mae tocynnau mynediad ar gael i’w harchebu ar-lein. I wneud y mwyaf o’ch ymweliad, dewch â’ch clustffonau a lawrlwythwch ap Castell Caerdydd gyda’n canllaw glywedol sy’n rhad ac am ddim. Fel arall, gallwch archebu lle ar daith dywys i weld mwy o’r tŷ a chlywed rhywfaint o’i hanes hynod ddiddorol, gofynnwch yn y swyddfa docynnau.

Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, cofiwch eich bod yn gymwys i gael Allwedd y Castell eich hun, gan roi mynediad am ddim i chi am o leiaf 3 blynedd. Mae buddion eraill yn cynnwys gostyngiad o 10% yng Nghaffi’r Castell a’r Siop Rhoddion!

Wrth i ni ailagor, mae Cymru yn dychwelyd i Alert Level 0 gyda gostyngiad o lawer o gyfyngiadau Covid. Cofiwch fod gwisgo gorchuddion wyneb yn dal yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os nad ydych yn siŵr o’r rheolau presennol, darllenwch y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru cyn i chi deithio.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.