Neidio i'r prif gynnwys

Cau ffyrdd a chyngor teithio i bawb o ran ‘Clash at the Castle’ ar 3 Medi

25 Awst 2022

Gyda digwyddiad stadiwm cyntaf y WWE yn y DU yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, mae ‘Clash at the Castle’ yn dod i’r Stadiwm Principality ar 3 Medi a bydd yr holl ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 12 hanner dydd a 12 hanner nos ar sail iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn a gadael y stadiwm yn ddiogel.

Cynlluniwch eich taith o flaen llaw a gadael digon o amser i gyrraedd Caerdydd a Stadiwm Principality.

Cynghorir yn gryf i’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad hwn i deithio i’r ddinas yn gynnar, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i’r eitemau gwaharddedig a restrir ar wefanprincipalitystadium.cymru cyn iddynt deithio i mewn i’r ddinas.

 

Cau ffyrdd

O 7am, bydd mynediad i Heol Scott a Heol y Parc yn cael ei reoli i sicrhau nad yw cerbydau’n parcio yn yr ardal cau ffyrdd.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau fel rhan o gau ffyrdd canol y ddinas yn gyfan gwbl, rhwng 12 hanner dydd a 12 hanner nos:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Dim ond bysiau sy’n gallu defnyddio Rhodfa’r Orsaf ac nid yw’n llwybr trwodd ar gyfer traffig. Mae mesurau gorfodi ar waith ar y llwybr hwn.

 

Ychwanegiadau:

Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

Bydd Heol Penarth (cefn Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog) o gyffordd Heol Eglwys Fair hyd at y fynedfa oddi ar Heol Penarth ar gau rhwng 9pm a hanner nos i helpu Trafnidiaeth Cymru gyda ffans sy’n ciwio.

 

Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu amserlen lawn ac ni fydd unrhyw waith uwchraddio rheilffyrdd yn effeithio ar wasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd ar ddydd Sadwrn 3 Medi, ond bydd  gwasanaethau’n brysur iawn, felly neilltuwch ddigon o amser ar gyfer eich taith.

Bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau’r brif linell ar y Sgwâr Canolog a bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf.

Ewch i tfw.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â’r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Stadiwm CCFC Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i’r safle.

Mae’r man gollwng a chasglu yng nghanol y ddinas yn Fitzhamon Embankment.

Mae’r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy’n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod – mae taliadau cerdyn ar gael hefyd.

Bydd y maes parcio yn agor am 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.30am. Bydd y bws olaf yn gadael y mannau casglu am 12 hanner nos, a bydd y meysydd parcio’n cau am 12.30am.

 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bws

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/

 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i Dŷ Fraser) ar gau o 12 hanner dydd tan 12 hanner nos. I deithio allan o’r ddinas ar hyd y de mewn tacsi, defnyddiwch y safle tacsis ar waelod Heol Eglwys Fair, lle bydd marsialiaid tacsis yn rheoli’r ciw tacsi.