Neidio i'r prif gynnwys

GŴYL Y GAEAF CAERDYDD YN DYCHWELYD AR GYFER 2022

21 Medi 2022

Mae atyniad Gaeaf mwyaf y brifddinas yn ôl o 15 Tachwedd – 8 Ionawr!

Gyda’r haf bellach ar ben, mae cynllunio ar gyfer dathliadau’r gaeaf ar draws y ddinas ar y gweill, ac mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd wedi cyhoeddi bod eu cynllun digwyddiadau mwyaf erioed yn ôl. Yn 2021 cafodd y digwyddiad ei rannu ar draws dau leoliad er mwyn cynyddu hwyl yr ŵyl i’r eithaf, a bydd y cynllun llwyddiannus hwn yn dychwelyd eleni, gan sicrhau Gŵyl y Gaeaf fydd yn fwy na welwyd yng Nghaerdydd erioed yma i aros. Gall ymwelwyr unwaith eto fwynhau’r dathliadau yn Lawntiau Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd, dau leoliad yng nghanol Canol Dinas Caerdydd.

A hynny’n nodwedd boblogaidd tu hwnt, bydd Castell Caerdydd unwaith eto yn gartref i’r sglefrio iâ, sy’n cynnwys y llawr sglefrio iâ hudolus, wedi’i orchuddio a 150m o daith gerdded iâ awyr agored, pob un yn erbyn cefndir trawiadol y Gorthwr Normanaidd.

Bydd y Castell hefyd yn cynnal nifer o werthwyr bwyd, lle gall ymwelwyr fwynhau wraps pwdin o Swydd Efrog blasus, neu gael hwyl yn tostio malws melys dros dân agored gyda ffrindiau. Gellir mwynhau’r danteithion blasus hyn yn y man eistedd newydd ac estynedig, gyda gwell golygfeydd o’r sglefrio.

Draw yn Neuadd y Ddinas, gall ymwelwyr fwynhau goleuadau a synau llachar y reidiau a’r atyniadau neu reidio’r Olwyn Fawr gan gynnig rhai o olygfeydd gorau’r ddinas. Nid yw’r dewis bwyd a diod yn stopio chwaith, gyda gwerthwyr newydd i fachu siocled poeth, gwin mwll, neu selsig Almaenig ar noson oer o aeaf.

Mae unig Far Iâ Caerdydd hefyd yn ôl y tymor hwn, y tro hwn gyda mwy o gapasiti i 40 o bobl y sesiwn, yn ogystal ag opsiynau llogi lleoliadau newydd ar gyfer partïon Nadolig gwaith neu ddathliadau pen-blwydd. Eleni, bydd y bar hefyd yn cynnig coctels Funkin ochr yn ochr â’i ddetholiad blaenorol o gwrw, prosecco, a jochiau o fodca blas.

Yr un mor boblogaidd, bydd Sur La Piste, y bar sgïo alpaidd yn dychwelyd yn ei fformat estynedig. Yn newydd ar gyfer 2022, bydd ei deras to awyr agored nawr yn gartref i bob adloniant byw, gan ein serennu hyd at y Nadolig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  “Mae tymor yr ŵyl bob amser yn arbennig a gyda Gŵyl y Gaeaf yn ôl ac yn fwy nag erioed, y marchnadoedd Nadolig traddodiadol yn dychwelyd, goleuadau’r ŵyl yn pefrio, a llawer iawn mwy ar gael i ymwelwyr a thrigolion eu mwynhau, mae eleni yn siapio i fod yn Nadolig Caerdydd llawen iawn.

Dywedodd Norman George Sayers, trefnydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn dod â Gŵyl y Gaeaf Caerdydd i’r ddinas eto y Gaeaf hwn, ac yn enwedig dychweliad ein cynllun mwyaf erioed gan gynnig yr hwyl mwyaf posibl i ymwelwyr ei fwynhau.”

“Mae meddiannu dau safle allweddol yn golygu y gall Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ategu eto at weithgareddau ehangach y gaeaf sy’n cael eu cynnal ar draws y ddinas – gan gynnwys y Farchnad Nadolig draddodiadol a Groto Siôn Corn ar Heol y Frenhines.”

“Gyda’r capasiti cynyddol i’r bar iâ yn ogystal â thema a cherfluniau newydd ar gyfer 2022, rydym yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i’n hatyniad unigryw.”

Bydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd ar agor o 15 Tachwedd 2022, a bydd tocynnau sglefrio iâ ar werth rŵan: https://cardiffswinterwonderland.com/buy-tickets/

Mae sesiynau sglefrio iâ hygyrch gyda llai o bobl ar agor bob bore Mercher ac maent ar gael gyda thocyn hygyrch sy’n rhoi mynediad i un cynorthwy-ydd neu ofalwr personol.

Yn draddodiadol mae slotiau sglefrio iâ yn gwerthu allan yn gyflym, yn enwedig ar benwythnosau. Argymhellir yn gryf bod tocynnau’n cael eu harchebu o flaen llaw ar gyfer y llawr sglefio a’r bar barrug.

Mae mynediad cyffredinol i Lawntiau Neuadd y Ddinas a sgwâr cyhoeddus tiroedd y Castell am ddim i ymwelwyr dros gyfnod y gaeaf.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl y Gaeaf Caerdydd drwy:

Facebook.com/CardiffsWWL

Twitter.com/CardiffsWWL

Instagram.com/cardiffswinterwonderland

 

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Nadolig Castell Caerdydd ar gyfer 2022 ar gael yn www.castell-caerdydd.com