Neidio i'r prif gynnwys

Cynlluniwch Ymlaen Llaw! – Cyngor teithio i gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd

27 Hydref 2022

 

Bydd Cymru’n herio Seland Newydd ddydd Sadwrn 5 Tachwedd yn Stadiwm Principality.

Gyda chyfyngiadau llym ar y rhwydwaith trenau oherwydd streic, cynghorir pawb sy’n teithio trwy’r ffordd i adael digon o amser i fynd i mewn i Gaerdydd ac i mewn i Stadiwm Principality.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn – cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd, neu Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Gyda’r gic gyntaf yn cael ei chynnal am 3.15pm – bydd ffordd lawn o ganol y ddinas ar gau o 11.15am tan 7.15pm i sicrhau bod modd i bob deiliad tocyn fynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.

Bydd y gatiau’n agor am 12:45, cynghorir y rhai sy’n mynychu’r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Rhowch sylw i’r eitemau gwaharddedig a restrir yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (ni chaniateir bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

Ni fydd trenau’n rhedeg o Gaerdydd ar ôl y gêm

 

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 11.15am tan 7.15pm

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhamon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl: Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

Ychwanegiadau:
Canolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau

Cynghorir teithwyr I BEIDIO teithio ar y trên ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.

Mae hyn achos gweithredu diwydiannol gan undebau’r RMT a TSSA ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, fydd yn gweld y rhan fwyaf o drenau ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn cael eu hatal.

Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn rhan o’r naill anghydfod na’r llall, ond bydd effaith ddifrifol ar ei wasanaethau, gan ei fod yn dibynnu ar staff Network Rail i redeg trenau ar lawer o’r rhwydwaith.

Fe fydd gwasanaethau hefyd yn gorffen yn gynharach ar y dyddiau cyn y gweithredu diwydiannol ac yn dechrau yn ddiweddarach ar y dyddiau wedi’r gweithredu diwydiannol. Mae cwsmeriaid sy’n teithio ar y dyddiau hyn yn cael eu hannog i wirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf cyn gwneud eu taith.

Ni fydd trenau’n rhedeg o Gaerdydd ar ôl y gêm

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau parcio a theithio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd a Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd. Mae modd cyrraedd y ddau gyfleuster yn hawdd ar hyd yr M4, gan adael ar gyffordd 33, a theithio i lawr y ffordd gyswllt (A4232) gan ddilyn yr arwyddion a fydd yn cael eu rhoi ar waith.

Y man gollwng yng nghanol y ddinas o Stadiwm Dinas Caerdydd yw Fitzalan Embankment a’r man gollwng o Neuadd y Sir yw Sgwâr Callaghan.

Bydd bysus yn rhedeg i ganol y ddinas ac oddi yno  bob 15 munud. Cost: £10 yn daladwy ar y diwrnod – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Mae’r ddau faes parcio yn agor am 9am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 9.10am. Y bws olaf o ganol y ddinas i’r ddau safle parcio a theithio fydd am 7.30pm gyda’r safleoedd yn cau am 8pm.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiadau yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am x ac yn cau am x

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Mae £25 yn daladwy ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £15 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bws

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:
Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth Adventure Travel, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/ 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.15am ac yn ailagor am 7.15pm.