Neidio i'r prif gynnwys

Mwynhewch Lwybr y Pasg yng Nghastell Caerdydd

Dydd Mawrth 04 Ebrill 2023


Gall ymwelwyr â Chastell Caerdydd yn ystod gwyliau’r ysgol ym mis Ebrill eleni fwynhau ein Llwybr Pasg g-wy-ch.

Gyda chyfres o arwyddion i’w darganfod ar hyd a lled y tiroedd, cadwch lygad wrth i chi archwilio a dysgu am draddodiadau’r Pasg dros amser. Chwiliwch am yr atebion a nodwch yr ‘wy allan’ i gwblhau’r llwybr a hawlio’ch gwobr!

Pob hwyl a hela hapus.


Mae Llwybr y Pasg yn costio £2 y pen a gellir ei archebu yn swyddfa docynnau’r Castell o heddiw tan ddydd Sul 16 Ebrill. Teganau traddodiadol i blant yw’r gwobrau ar gyfer y llwybr.