Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Teithio ar Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 22 Ebrill

Dydd Iau 20 Ebrill 2023


 

 

Bydd Dydd y Farn yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn yma ac i wneud yn siŵr y gall pob deiliad tocyn fynd i mewn i’r stadiwm yn ddiogel, bydd rhai ffyrdd ar gau rhwng 11am a 9pm yng nghanol y ddinas, ond bydd Stryd y Castell yn parhau ar agor i draffig.

Mae pobl sy’n mynd i’r gemau rygbi hyn yn cael eu cynghori’n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i’r stadiwm yn gynnar.  Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

Cau ffyrdd

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl – Ffordd Porth y Gorllewin, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, y Gwter, y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd Womanby, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair
  • Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Drenau Ganolog.

Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad at rannau o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Bydd mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer ymwelwyr â Neuadd y Ddinas, a llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Dyma’r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwaith uwchraddio seilwaith ar rwydwaith Craidd Rheilffyrdd y Cymoedd ar gyfer Metro De Cymru, felly bydd bysiau yn lle gwasanaethau rheilffordd ar rai llwybrau ddydd Sadwrn 22 Ebrill.

Bydd bysiau yn lle trenau rhwng:

  • Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.
  • Pontypridd ac Aberdâr.

Mae disgwyl i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ar lwybrau i mewn / allan o Gaerdydd fod yn brysurach na’r arfer felly gadewch ddigon o amser ar gyfer eich taith.

Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau’r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau’r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Ewch i trc.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â’r swyddog tocynnau, neu ar gyfer materion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 .  Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)

Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.

Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9.10am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas  am 8.30pm gyda’r safle yn cau’n fuan wedi hynny.

 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Bysus)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 i geir a £30 i fysus – yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio – mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.

Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Bws

Tra bydd y ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau, bydd safleoedd bysiau dros dro yn Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd Churchill, ac Arglawdd Fitzhammon.

Bysiau lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:   Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

 

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio’r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11am ac yn ailagor am 9pm.