Parc Bute 

Heb fod ymhell o Gastell Caerdydd a chanol y ddinas, mae Parc Bute wedi'i leoli. Mae'r parcdir yn ardal eang o dir aeddfed, sy'n ffinio â'r Afon Taf, Gerddi Sophia, Caeau Pontcanna a'r Castell. Ychydig iawn o ddinasoedd sydd ag ardal werdd mor eang ynghanol eu dinas - darn o dir gwyrdd sy'n llawn hanes a bywyd gwyllt. Mae'r Parc, sy'n cynnwys coed deniadol, o bwys cenedlaethol yn ogystal â 50 o ‘Goed Gorau' DU, yn denu dros 1,000,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn chwarae rôl hanfodol yng nghalendr digwyddiadau'r ddinas - mae'r Sioe RHS yng Nghaerdydd yn un o'r digwyddiadau amlycaf hyn.

Parc Bute oedd ‘ardd gefn’ Castell Caerdydd ar un adeg, ac maent yn rhannu hanes cyffredin, ac mae'r ddau wedi chwarae rôl sylweddol yn natblygiad y ddinas o gyfnod y Rhufeiniad a'r canoloesoedd, drwy’r chwyldro diwydiannol, hyd at gyfnod modern dinas Caerdydd fel yr ydym yn ei hadnabod heddiw. O 1873, cynlluniwyd y rhan ddeheuol gan Andrew Pettigrew ar gyfer teulu Bute, fel gerddi pleser preifat Castell Caerdydd.  Ym 1947 cyflwynwyd rhan helaeth o Barc Bute, Gerddi Sophia gerllaw a Chastell Caerdydd ei hun gan 5ed Ardalydd Bute fel rhodd i bobl y ddinas.

 

www.bute-park.com

{WIDGET:GALLERY97}