Ydych chi'n barod i ofyn y cwestiwn ond ddim yn siŵr sut i wneud hynny mewn ffordd arbennig?
Yma yng Nghastell Caerdydd, ein nod yw ei gwneud hi’n hawdd i chi, felly dyma rai syniadau.
Taith breifat i ofyn y cwestiwn
Ewch ar daith breifat gyda’n tywysydd i weld rhai o'n hystafelloedd rhamantus godidog, gan gynnwys y Tŵr Cloc eiconig. Bydd eich taith yn dod i ben wrth y Grisiau Octagon godidog, y lle perffaith i ofyn y cwestiwn.
Mae’r daith yn para tua 60 munud. Y gost yw £25 y pen gan gynnwys lluniaeth ysgafn yng nghaffi’r Castell cyn neu ar ôl eich taith.
Taith Breifat i ofyn y Cwestiwn + Blodau a Siampên
Fel uchod, ond gyda photel o rywbeth arbennig i chi i ddathlu'r achlysur arbennig, a thusw o flodau i fynd adref i gofio'ch diwrnod.
Prosecco a thusw bach o flodau: £110*
Siampên a thusw mawr o flodau: £150 *
*Mae pris y pecyn i 2 berson. Gwesteion ychwanegol ar y daith - £25 y pen
Os hoffech ddylunio eich pecyn eich hun, neu os oes rhywbeth penodol yn y Castell yr hoffech ei gynnwys, rhowch wybod i ni wrth archebu a gallwn drafod yr opsiynau gyda chi.
Cysylltwch â ni ar 029 2087 8100 / castellcaerdydd@caerdydd.gov.uk i drefnu.
Gwybodaeth bellach: