Teulu Bute 1776 – 1947 OC

Roedd yr arglwyddiaeth yn eiddo i deulu Bute tan 1947, pan roddwyd y castell i Ddinas Caerdydd. Daeth pŵer a ffyniant i Gaerdydd yn sgil teulu Bute, gan droi pentref bach pysgota yn un o borthladdoedd allforio glo mwyaf y byd. Trosglwyddwyd y castell i fod yr adeilad ffantasi gothig a welir heddiw, yn ogystal â datgelu gorffennol Rhufeinig y Castell.

Yn yr 1770au, aeth ‘Capability’ Brown a’i fab yng nghyfraith Henry Holland ati i roi cynllun uchelgeisiol ar waith i dirlunio’r tiroedd a moderneiddio’r adeiladau. Brown fu’n gyfrifol am ddymchwel Llety’r Marchogion Normanaidd a Neuadd y Sir ar y lawnt. Tynnodd Brown yr iorwg oddi ar y gorthwr, a thorrodd yr holl goed ar y mwnt hynafol. Llenwodd y ffos hefyd.

Aeth Holland ati i ailfodelu’r adeiladau a ychwanegwyd gan yr Herbertiaid yn y 16 ganrif, ac ailadeiladodd y rhannau o’r castell i’r gogledd ac i’r de o’r neuadd, sef yr adain fwyaf a’r adain leiaf. Rhannwyd y Neuadd Fawr yn Neuadd Fynedfa, Llyfrgell ac Ystafell Fwyta newydd. Uwchben y Neuadd, moderneiddiwyd yr ystafelloedd gwely a rhoddwyd enwau iddynt megis yr Ystafell Goch, yr Ystafell Felfed ac ati...

Bu farw John Stuart, Ardalydd cyntaf Bute, ym 1814. Trosglwyddwyd yr Arglwyddiaeth i’w ŵyr, Ail Ardalydd Bute, a aeth ati i ddatblygu potensial yr ystâd ar gyfer diwydiant ac fel porthladd.   Atgyweiriwyd y Castell ymhellach yn ystod yr 1820au.

Bu farw’r Ardalydd ym mis Mawrth 1848. Dim ond chwech mis oedd oed ei fab a’i etifedd, John Patrick Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute. Ym mhen amser ef fyddai un o noddwyr preifat pensaernïaeth bwysicaf y wlad erioed.

Ym 1865 gwahoddwyd y pensaer William Burgess gan yr Arglwydd Bute i gyflwyno adroddiad ar gyflwr y Castell. Dyma oedd man cychwyn partneriaeth bwysig a fyddai’n para 16 mlynedd, a newidiwyd Castell Caerdydd i fod yn balas ffantasi Neo Gothig.

Daeth Burges â grŵp o ddynion ynghyd a fyddai’n cydweithio ag ef drwy gydol y broses o adnewyddu Castell Caerdydd. Galwodd yr Arglwydd Bute ar haneswyr lleol o fri, a bu yntau’n eu helpu i olrhain hanes y Castell. Gorchmynnodd sefydlu ‘Gweithdai Bute’ gan gyflogi’r crefftwyr Cymreig gorau.

Dechreuodd y gwaith ar ôl i weithwyr Bute ddymchwel y tai a godwyd yn erbyn Llenfur y De. Adnewyddwyd y gwaith maen gan Burges, ac ychwanegodd rhodfa ben clawdd orchuddiedig gydag agorfeydd a thyllau saethu. Adeiladwyd Tŵr y Cloc ar safle bastiwn Rhufeinig, a chwblhawyd y gwaith ym 1875.

Ym 1872 priododd yr Arglwydd Bute â’r Anrhydeddus Gwendolen FitzAlan Howard, un o ferched prydferthaf yr oes. Ganed pedwar o blant iddynt, a dyluniodd Burges feithrinfa yn arbennig ar eu cyfer. Parhaodd y gwaith drwy ailadeiladu Tŵr Bute a Thŵr Herbert, yn ogystal â’r tŵr newydd i westeion a Thŵr y Tanc. Atgyweiriwyd y Tŵr Octagon o’r 15fed ganrif drwy ychwanegu meindwr pren uwchben y bylchfuriau. Creodd Burges Lyfrgell a Neuadd Wledda o fewn y bloc llety a oedd yn dyddio o ddiwedd y canoloesoedd.

Pan fu farw Burges ym 1881, parhawyd â’i waith gan ei gyn-gynorthwy-ydd William Frame. Frame fu’n gyfrifol am godi Wal yr Anifeiliaid ac adfer yr olion Rhufeinig a oedd newydd eu darganfod.   Bu farw’r 3ydd Ardalydd ym 1900. Parhaodd ei fab, y 4ydd Ardalydd, i adnewyddu Muriau’r Castell, ac yn y cyfnod 1922-5 goruchwyliodd y gwaith o ailadeiladu’r Mur Rhufeinig gyferbyn â Heol y Dug, yn ogystal â chodi Tŵr y Barbican, a ddyluniwyd gan ei bensaer John Grant. Ychwanegwyd neuadd fynediad newydd i’r castell ym 1927.

Llwyddodd Castell Caerdydd i osgoi ymosodiadau’r gelyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er y dinistriwyd dau o’r porthdai gerllaw. Defnyddiwyd muriau allanol y castell fel lloches cyrchoedd awyr, gyda digon o le ar gyfer bron 2000 o bobl.

Ym 1947 rhoddwyd Castell Caerdydd i bobl Caerdydd gan 5ed Ardalydd Bute.