Teulu de Clare 1217-1314 OC

Mae’r Gilbert de Clare cyntaf yn adnabyddus yn bennaf fel un o farwniaid y Magna Carta; bu farw ym 1230, gan adael ei fab Richard yn etifedd iddo. Dim ond 8 oed oedd Richard pan fu farw ei dad. Pan ddaeth i oedran ym 1243, cynyddodd ei ddylanwad dros yr Arglwyddi Cymraeg ym Mlaenau Morgannwg.

Bu farw Richard ym 1262, ac fe’i olynwyd gan ei etifedd Gilbert ‘Goch’. Yn sgîl y bygythiad parhaus o ymosodiadau ar gastell Caerdydd, sef canolfan weinyddol holl arglwyddiaeth Morgannwg, aeth ati ar frys i ailadeiladu amddiffynfeydd y castell. Cododd fylchfur canolog i gysylltu’r gorthwr ar ei newydd wedd (a atgyfnerthwyd er mwyn creu gwell llety ar gyfer y teulu) â phorth y De a’r Tŵr Du. Roedd ochr ddwyreiniol y bylchfur (y ward allanol) bellach yn cynnwys llety parhaol ar gyfer marchogion Morgannwg, eu gweision a’u milwyr yn ystod cyfnodau o ddyletswydd gwarchodlu.

Bu farw Gilbert ym 1295, gan adael mab o’r un enw yn etifedd. Roedd Gilbert yr ieuengaf yn dal i fod dan oed pan fu farw ei fam Joan, ond etifeddodd yntau’r arglwyddiaeth. Mae’r wybodaeth brin a wyddys am yr arglwydd newydd hwn yn adlewyrchu’n dda arno o ran ei ymdrin â’r tywysogion Cymraeg brodorol, ond bu farw ym mrwydr Bannockburn ym 1314, yn 23 oed. Trosglwyddwyd yr Arglwyddiaeth i’w chwaer Eleanor, a briododd â Hugh Despenser ym 1306. Hugh Despenser oedd yr aelod cyntaf o deulu newydd a fyddai’n dal arglwyddiaeth Morgannwg am tua chanrif.