Y Despenseriaid 1317 – 1416 OC

Mewn sawl ffordd, roedd teyrnasiad yr arglwyddi newydd hyn yn bennod gywilyddus yn hanes y castell.

Pan fu farw’r Gilbert de Clare ifanc ym 1314, trosglwyddwyd arglwyddiaeth Morgannwg a Chaerdydd i ofal y goron, a diswyddwyd yr holl Gymry yn ystod y cyfnod pan roedd Pain de Tuberville, Arglwydd Coety, yn gwasanaethu fel ‘gwarchodwr’. Ymhlith y Cymry hyn a ddiswyddwyd roedd Llywelyn Bren, sef gorwyr y Cymro arwrol Ifor Bach, a chyfaill da i’r arglwydd ifanc olaf.

Dychwelodd Isabella (‘Bleiddes Ffrainc’) cyn-wraig Edward II o Ffrainc ym 1326, ac anfonodd ei byddin i’r gad yn erbyn byddin ei chyn-ŵr. Aeth Edward a Hugh Despenser ar ffo i Forgannwg, ond fe’u cipiwyd tua 10 milltir i’r gorllewin o’r castell. Yn y pendraw aethpwyd ag Edward i gastell Berkley yn Swydd Gaerloyw, lle gafodd ei lofruddio’n ffiaidd ym 1327. Daeth dial cyflymach ar y teulu Despenser; crogwyd Hugh yn Henffordd ym 1326. Llofruddiaeth Llywelyn Bren oedd un o’r cyhuddiadau yn ei erbyn. Pan fu farw ei weddw ym 1337, etifeddodd eu mab Hugh Despenser II yr Arglwyddiaeth. Aeth Castell Caerdydd yn eiddo i’w nai Edward pan fu farw Hugh yr Ail ym 1349. Llwyddodd Edward i adennill rhywfaint o enw da’r teulu drwy ei yrfa fel milwr enwog. Fodd bynnag, yr Arglwydd olaf o blith y Despenseriaid oedd Thomas. Fel ei gyndeidiau, bu farw yntau drwy drais, gan gael ei ddienyddio ym Mryste ym 1400.

Dechreuodd gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ym 1400, a phedair blynedd yn ddiweddarach torrodd lluoedd Owain drwy borth gorllewinol Caerdydd, gan losgi’r castell a’r dref. Roedd ffyrnigrwydd yr ymosodiad i raddau yn sgîl casineb y Cymry tuag at y Despenseriaid am lofruddiaeth Llywelyn Bren ym 1317. Yr unig fan yng Nghaerdydd nas difethwyd ganddynt oedd priordy’r Brodyr Llwydion, gan fod y mynachod yno wedi rhoi claddedigaeth Gristnogol i gorff Llywelyn.

Roedd etifeddes y castell, Isabel Despenser, merch Thomas, wedi priodi Richard Beauchamp, Iarll Caerwrangon, gan felly ddechrau pennod newydd yn hanes y castell.