Y Tuduriaid 1486 – 1551 OC

Ym 1485 glaniodd Harri Tudur, pennaeth Tŷ Lancastr, yn Aberdaugleddau. Gorymdeithiodd â’i fyddin i Faes Bosworth, ac yno trechwyd a lladdwyd Richard III. Roedd Brenhines Richard, Ann Neville, wedi marw bum mis yn flaenorol.

Nid oedd disgwyl y cai ystadau helaeth y Neviliaid, a oedd bellach wedi’u huno ag ystadau’r Goron, eu dychwelyd i deulu Neville, a rhoddwyd Arglwyddiaeth Caerdydd gan Harri Tudur (sef y Brenin Harri VIII erbyn hynny) i’w gefnder Siasbar Tudur ym 1486.

Amddifadwyd Ann Beauchamp, sef gweddw Warwig y Gwneuthurwr Brenhinoedd, rhag unrhyw hawl i ystadau teulu Beauchamp drwy ddeddf Edward IV ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1471, ond daethant i’w theulu drwy ei meibion yng nghyfraith. Dychwelodd yr arglwyddiaeth i eiddo’r goron pan fu farw Siasbar ym 1495, a pharhaodd y castell ym meddiant y goron drwy gydol teyrnasiad Harri VII a Harri VIII. Rhoddwyd yr Arglwyddiaeth i William Herbert gan Edward VI ym 1551.