Rhandai'r Castell

Palas Ffantasi Gothig Fictoraidd 

Castell Caerdydd yw un o gestyll mwyaf mawreddog y DU. Mae ganddo werth dau fileniwm o straeon i’w hadrodd.  

Mae’r Castell a welwch heddiw, yng nghanol y brifddinas, yn gaer Rufeinig, yn gastell Normanaidd trawiadol ac yn balas ffantasi Gothig rhyfeddol o Oes Victoria a grëwyd ar gyfer un o ddynion cyfoethocaf y byd.

I grwydro drwy fyd ffantasi canoloesol oes Victoria, ewch i gael golwg ar yr ystafelloedd rhyfeddol sy’n llawn murluniau, eurwaith a cherfiadau pren coeth, gwydr lliw a marmor a grëwyd gan y pensaer celf William Burges ar gyfer Trydydd Ardalydd Bute.

Os hoffech ddarganfod mwy am yr ystafelloedd rhyfeddol hyn, a gweld rhai o'r ystafelloedd godidog eraill yn y tŷ, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu lle ar Daith Tŷ dan arweiniad un o'n tywyswyr arbenigol. Cliciwch isod neu gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau am fanylion.