english
Y Cyfnod Normanaidd / Y Canoloesoedd

Cychwynnodd y cyfnod Normanaidd ym Mhrydain pan drechodd Wiliam o Normandi (Wiliam Goncwerwr) y Brenin Harold o Loegr ym Mrwydr Hastings yn 1066.

Daeth William yn Frenin William y Cyntaf ar Loegr a rhoddodd ddarnau o dir yn Lloegr i’w arglwyddi. Roedd yr arglwyddi a oedd yn byw ger y ffin â Chymru yn bwerus iawn ac roedden nhw’n awyddus i ymestyn y tiroedd yr oedden nhw'n berchen arnynt. Dechreuodd yr arglwyddi godi cestyll yng Nghymru i’w defnyddio i reoli ac amddiffyn eu tiroedd.

Dechreuodd y Normaniaid ymosod ar Gymru yn fuan ar ôl iddyn nhw goncro Lloegr, ond wnaethon nhw ddim goresgyn y wlad o ddifrif tan tua 1081.

Mae pobl yn cyfeirio at y "Canoloesoedd" neu'r "Cyfnod Canoloesol" yn aml. Fel arfer maen nhw’n cyfeirio at y cyfnod ar ôl i'r Rhufeiniaid adael hyd at adeg y Tuduriaid ac felly mae'r cyfnod Normanaidd wedi'i gynnwys yn y cyfnodau hynny.

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Y Castell

Pan ddaeth y Normaniaid i Gaerdydd, daethon nhw o hyd i weddillion y gaer Rufeinig olaf ac fe aethon nhw ati i adeiladu castell mwnt a beili o bren.

Roedd y castell ar ben bryn mawr (y “mwnt”). O amgylch gwaelod y mwnt roedd y “beili” sef ystafelloedd byw ac adeiladau ychwanegol gan gynnwys y ceginau a’r stablau.

Erbyn tua 1135, roedd “gorthwr” carreg, cryfach wedi’i godi yn lle’r castell pren. Roedd gan y Gorthwr ddeuddeg ochr ac nid oedd to arno. Byddai’r adeiladau pren wedi bod y tu mewn iddo.

Erbyn yr adeg honno, mae’n debyg bod mwy o adeiladau y tu mewn i'r beili i'r bobl ychwanegol a oedd yn byw ac yn gweithio yno.

Yn y drydedd ganrif ar ddeg, adeiladwyd y Tŵr Du ger y brif fynedfa gan deulu de Clare a oedd yn berchen ar y Castell ar y pryd. Yn ddiweddarach adeiladodd y teulu Gastell Caerffili, nid nepell o Gaerdydd.

Yn 1432, roedd y Castell yn berchen i Richard de Beauchamp a adeiladodd Gastell Warwick. Adeiladodd lety newydd a thŵr sydd bellach yn rhan o ganol y Tŷ yng Nghastell Caerdydd.

Gweld sut mae’r castell wedi newid dros yr oesoedd

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Pwy oedd yn teyrnasu

  • Wiliam y Cyntaf (Wiliam Goncwerwr) - 1066-1087
  • Wiliam yr Ail (Rufus) - 1087-1100
  • Harri’r I - 1100-1135
  • Steffan - 1135-1154
  • Harri’r II - 1154-1189
  • Rhisiart I (Y Llewgalon) - 1189-1199
  • John -1199-1216
  • Harri’r III - 1216-1272
  • Edward I – 1272-1307
  • Edward II – 1307 – diorseddwyd (collodd ei rym) 1327
  • Edward III – 1327-1377
  • Rhisiart II – 1377 – diorseddwyd (collodd ei rym) 1399
  • Harri’r IV - 1399-1413
  • Harri’r V - 1413-1422
  • Harri’r VI – 1422 – diorseddwyd (collodd ei rym) 1461
  • Edward IV – 1461 - 1483
  • Edward V – 1483-1483
  • Rhisiart III – 1483-1485


  • Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
    Caerdydd

    Petaech chi’n farchog Normanaidd yn cyrraedd Caerdydd yn 1081, byddech wedi gweld tref fach, dawel a llawer o gaeau gwag.

    Unwaith y cafodd y Castell ei adeiladu, byddai mwy a mwy o adeiladau wedi’u codi o'i amgylch. Byddai llawer o'r rhain wedi cael eu defnyddio gan grefftwyr a masnachwyr a oedd yn awyddus i werthu eu nwyddau i’r arglwyddi Normanaidd.

    Byddai’r adeiladau hyn wedi cael toeau gwellt ac wedi’i eu llunio o “Dwb a Chlai”. Dysgwch beth sydd gan Gwen y ferch Geltaidd i’w ddweud am Dwb a Chlai.

    Roedd eglwysi a chapeli wedi’u hadeiladu yn y dref ac roedd dwy fynachlog wrth ymyl y Castell. Mae olion un ohonyn nhw i’w gweld ym Mharc Bute o hyd, y tu ôl i’r Castell.

    Fel yn adeg y Rhufeiniad, roedd yr afon yn nes o lawer at y Castell nag y mae heddiw ac roedd sawl pont bren drosti i bobl fynd i mewn i'r dref. Ar ochr y ffos yn union y tu ôl i’r Castell roedd melin a fyddai wedi darparu blawd ar gyfer y trigolion lleol.

    Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.

    Gwen Marcius Edmund Hywel Owain Clara Lady Mary Reginald
    RhufeinigNormaniadd/CanoloesolFictoraiddYr Ail Ryfel Byd