english


Nod y tudalennau hyn yw ategi ymweliadau addysgol a rhoi cyd-destun hanesyddol i’r 2,000 mlynedd o hanes Castell Caerdydd.

Gallwch chi a’ch dosbarth ddod i adnabod cymeriadau’r Castell a fydd yn eich tywys ar daith drwy amser. Yn ystod eich ymweliad â’r Castell gallwch wrando ar y cymeriadau ar y Daith Glywedol i Blant neu ddilyn Llwybr y Teulu.

Dilynwch y ddolen hanes i gael gwybod sut roedd pobl yn byw yn ystod gwahanol gyfnodau o hanes, neu edrychwch ar y llinell amser i weld sut le oedd y Castell a beth oedd yn digwydd yng Nghaerdydd ar y pryd.

Defnyddiwch y tudalennau i baratoi ar gyfer eich ymweliad neu i wneud gwaith pellach yn y dosbarth.

Dysgwch fwy am drefnu ymweliadau addysgol i’r castell, gweithgareddau addysgol arbennig a dolenni trawsgwricwlaidd.

Gobeithiwn y gwnewch chi fwynhau teithio drwy amser gyda ni!



Castell Caerdydd
Heol y Castell
Caerdydd
CF10 3RB
Cymru
Y Deyrnas Unedig

Ffôn: (+44) 029 2087 8100

Fax: (+44) 029 2023 1417

Ebost: cardiffcastle@cardiff.gov.uk
Gwen Marcius Edmund Hywel Owain Clara Lady Mary Reginald
RhufeinigNormaniadd/CanoloesolFictoraiddYr Ail Ryfel Byd