Beth wyt ti'n edrych am?
Jess Glynne fydd y brif berfformiwr yn DEPOT in the Castle 2025
Dydd Gwener, 8 Tachwedd 2024
Mae wedi’i gadarnhau mai Jess Glynne fydd y prif berfformiwr ar gyfer DEPOT in the Castle 2025 ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf, gŵyl gartref Caerdydd yn amgylchedd eiconig tiroedd y castell.
Mae’r canwr-gyfansoddwr Jess Glynne, a anwyd yn Llundain, wedi creu hanes gan mai hi yw’r artist unigol benywaidd Prydeinig cyntaf, a’r unig un, i ennill saith rhif un yn Siart Senglau’r DU – gan gynnwys ‘I’ll Be There’, ‘Hold My Hand’ a ‘Don’t Be So Hard On Yourself’.
Daeth Jess i’r amlwg yn 2013 fel artist ar y senglau aml-blatinwm ‘Rather Be’ gan Clean Bandit a ‘My Love’ gan Route 94. Llwyddodd y ddau i gyrraedd rhif un yn siartiau’r DU.
Ers hynny, mae Jess Glynne wedi ennill Gwobr GRAMMY, tair Gwobr Ivor Novello a naw enwebiad Gwobr BRIT. Gyda’i dau albwm cyntaf penigamp, I Cry When I Laugh ac Always In Between, yn dod yn rhai platinwm llwyddiannus, cafodd Jess ei henwi ar restr nodedig ’30 under 30′ Forbes yn 2019 yn dilyn ei thaith o gwmpas y byd y gwerthwyd pob tocyn iddi.
Yn albwm sydd wedi bod yn cael ei greu ers 6 blynedd, mae Jess Glynne newydd ryddhau ei thrydydd albwm stiwdio JESS. Wedi’i ysgrifennu rhwng Llundain ac LA, mae’r albwm 15 trac â’r un enw â hi yn cyflwyno teimlad dwfn o rymuso trwy arddull ysgrifennu caneuon personol Jess, sy’n cynnwys baledi teimladwy a’r anthemau pop hanfodol sydd wedi arwain at Jess yn ennill teitl un o artistiaid mwyaf llwyddiannus cerddoriaeth.
2025 fydd nawfed blwyddyn DEPOT in the Castle, gŵyl gartref Caerdydd yn amgylchedd eiconig tiroedd y castell. Mae prif berfformwyr blaenorol DEPOT in the Castle dros y blynyddoedd wedi cynnwys Anne Marie, Example, Bastille, Craig David, Kaiser Chiefs, Tom Grennan, Ella Eyre, Clean Bandit a The Fratellis.
Mae DEPOT in the Castle yn cael ei drefnu a’i redeg gan DEPOT Live, cangen digwyddiadau byw The DEPOT – un o leoliadau digwyddiadau byw mwyaf llwyddiannus Caerdydd. Am yr eildro, bydd TK Maxx yn ymuno â DEPOT LIVE fel partner cyflwyno ar gyfer y gyfres o sioeau Castell Caerdydd dros yr haf.
Dywedodd Nick Saunders, sylfaenydd The DEPOT / DEPOT Live: “Rydyn ni mor falch o gyhoeddi ein prif berfformiwr ar gyfer DEPOT in the Castle 2025. Dyma wythfed flwyddyn yr ŵyl ac mae bob amser yn uchafbwynt gwirioneddol yn ein calendr blynyddol.”