Neidio i'r prif gynnwys

CROESO I GASTELL CAERDYDD

Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwys rhyngwladol, cerddwch drwy ei gatiau a darganfyddwch stori 2,000 o flynyddoedd yn ei greu.

O feddiannaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain i’r Goncwest Normanaidd, trwy gynnwrf y rhyfel cartref, trawsnewidiad yn yr oes Fictoraidd a hyd yn oed arswyd yr Ail Ryfel Byd, mae’r waliau hyn wedi gweld y cyfan.

Mewn gwlad sy’n fyd-enwog am ei chestyll, mae Caerdydd yn falch o fod ychydig yn wahanol; nid yn unig wedi goroesi’r canrifoedd ond wedi esblygu gyda nhw mewn modd na all llawer eraill ei hawlio.

Digwyddiadau i Ddod

ALLWEDD Y CASTELL

Mae miloedd o bobl yn ymweld â Chastell Caerdydd bob blwyddyn ond rydyn ni'n dal eisiau i drigolion lleol ddod i fwynhau eu castell cymaint ag y gallan nhw. Os ydych yn byw neu'n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, mae gennych hawl i'ch Allwedd eich hun i'r Castell gyda mynediad AM DDIM am 3 blynedd i'r atyniad treftadaeth hwn o'r radd flaenaf.

2000 MLYNEDD O HANES YNG NGHALON Y DDINAS

Dechreuodd y cyfan yn y ganrif 1af OC gan y Rhufeiniaid, a adeiladodd y cyntaf mewn cyfres o gaerau. Yn yr 11eg ganrif, adeiladodd y Normaniaid y Gorthwr sy’n dal i ddominyddu Lawnt y Castell hyd heddiw. Dechreuodd Arglwyddi Morgannwg canoloesol weithio ar y Tŷ yn ystod y 15fed ganrif.

Gadawodd y teulu Bute eu marc ar y ddinas gyfan yn y 19eg ganrif, fe wnaethant hefyd drawsnewid y Tŷ i’r gartref Gothig Fictoraidd didraidd y welwn heddiw. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y waliau o amgylch y Castell fel llochesi cyrch awyr; man diogel i filoedd o ddinasyddion Caerdydd. Mae ailadeiladu’r llochesi wedi cael ei agor i ymwelwyr ei archwilio.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar ein rhestr bostio Castell Caerdydd i dderbyn y newyddion diweddaraf a beth sydd ymlaen.